Rebuilt HTML — PaddleOCR-VL (Baidu)
Semantic HTML reconstructed from the OCR item tree (headings, text, lists, tables, form fields). overlay · view JSON
Rhoi Hwb i Economi Ceredigion Strategaeth ar gyfer Gweithredu 2020-35
Cynnwys
Yr hanes hyd yma... 3 Sut yr ydym ni'n gwneud? 3 Beth yw'r problemau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw? 4 Ein gwæledigaeth a'n gwerthoedd? 4 Cyd-destun a chwmpas strategol 5 Egwyddorion ac ysgogwyr allweddol 6 Yr hyn a ddywedasach chi wrthym... 7 Cefnogi ein sectorau allweddol 8 Blaenoriaeth 1: Pobl 9-11 Blaenoriaeth 2: Lle 12-16 Blaenoriaeth 3: Menter 17-20 Blaenoriaeth 4: Cysylltedd 21-26 Sut y byddwn ni'n darparu ac yn cyfrann adnoddau at strategaeth economaiidd Ceredigion? 27 Mesur cynnydd 27 Dogfennau ategol 28
Strategaeth Economiaidd Ceredigion
Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn cydweithio tuag at sicrhau twf economaidd cryf, cynaliadwy a mwy gwydn i Geredigion, wedi ei greu a'i rannu gan bawb.
Mae ein Cynllun Corfforaethol wedi nodi rhoi hwb i'r economi fel y brif flaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion, gan ein bod yn sylwedoli'r angen i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd gennym i roi'r cyfleoedd i'n pobl a'n mentrau dyfu a ffynnu yma yng Ngheredigion.
Mae gennym ni sylfeini cadarn i adeiladu arnynt, a chyfleoedd gwych i fanteisio i'r eithaf arnynt. Er y bydd Covid-19, a heriau Brexit, yn anodd eu goresgyn, credwn y bydd y sylfeini hyn yn ein helpu i adeiladu ein dyfodol. Y strategaeth hon yw ein fframwaith ar gyfer gweithredu, gan amlinellu ein huchelgais ar gyfer y 15 mlynedd nesaf, a nodi'r camau y byddwn yn eu cymrydi wireddu'r uchelgais hwnnw.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Strategaeth hon yn ystod y cyfnod drafftio a'r cam ymgynghori. Byddwn yn parhau i gydweithio ag eraill wrth i ni ychwanegu manylion at y fframwaith a byddwn yn mynd at i roi cynlluniau ar waith i sicrhau twf cynaliadwy yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, byddwn yn canolbwyntio ar bobl, busnesau ac amgylchedd Ceredigion. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu ar gryfderau unigryw Ceredigion a helpu ein pobl, ein mentrau, ein diwylliant a'n hiaith i ddatblygu a ffynnu.
Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu ar grydderau unigryw Ceredigion a helpu ein pobl, ein mentrau, ein diwylliant a'n hiaith iddatblygu a ffynnu.
Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion Mae'r strategaeth hon yn nodi pedwar maes blaenoriaeth lle bydd ein camau'n cael eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth –
Mae'r strategaeth hon yn nodi pedwar maes blaenoriaeth lle bydd ein camau'n cael eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth –
- Pobl – ysbrydoli pobl, datblygu sgiliau, iechyd a llesiant
- Lle – hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef
- Menter – cynorthwyo busnesau i gychwyn a thyfu
- Cysylltedd – cysylltu busnesau a chymunedau
Mae'r rhain yn cefnogi'r Nodau Liesiant cenedlaethol o fod yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, yn fwy cyfartal, gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ac sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Mae gan Swallow Yachts yn Aberteifi enw rhagorol am grefftwaith o ansawdd da ac maent wedi gwerthu eu cychod i bedwar ban byd
Yr hanes hyd yma...
Mae'n amser cyffrous i economi Ceredigion, sydd wedi ei lleoli mewn un o'r ardaloedd mwyaf hardd ac unigryw yn y DU gyfan wrth i ni bennu ein nodau economaidd ar gyfer y cyfnod hyd at 2035.
- Mae ein maint a'n lleoliad yn golygu ein bod yn wynebu heriau i dyfu'r economi leol, ond yn yr un modd ceir llawero gyfleoedd i ni fanteisio i'r eithaf ar leoliad y sir i addasu i ddyfodol carbon isel a digideiddio cynyddol.
Er mwyn cyflwyno ein strategaeth a'n hymyraethau hyd at 2035, mae'n bwysig i ni ddeall y sefyllfa yr ydym yn cychwyn ohoni.
Cynhaliwyd adolygiad llinell sylfaen o dystiolaeth gennym yn ystod hydref 2019 i nodi sefyllfa'r economi yn genedlaethol ac i nodi'r heriau allweddol i dyfu'r economi leol.
Ategwyd hwn gan ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod gaeaf 2019/2020 i geisio safbwyntiau busnesau, pobl ifanca'r cyhoedd ar y materion sy'n effeithio arnynt. Rydymhefyd wedi cynnal asesiad pellach eleni o effaith Covid-19 ar ein llinell sylfaen economaidd ac yn ystod Rhagfyr 2020 ac lonawr 2021, gwnaethom gynnal ymgynghoriad pellach ar y strategaeth ddrafft a defnyddiwyd y canlyniadau i lunio'r strategaeth hon a'n helpu ni i baratoi i'w rhoi ar waith.
Sut yr ydym ni'n gwneud?
- Mae ein gwaith ymchwil ac ymgynghori yn dangos bod llawer o gryfderau a phywntiau gwerthu unigryw i'r economi leol. Eri bod yn amlwg bod Covid-19 wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi a'i fod yn parhau i gael effaith andwyol, mae'r sylfeini sylfaenol yn aros yr un fath – mae gan fusnesau newydd sbon rai o'r cyfraddau goroesi gorau ledled Cymru, mae gan ein gweithlu sgiliau a chymhwysterau llawer uwch na'r cyfartaledd, mae ein heconomi wedi tyfu ar gyfradd gyflymach na chyfartaledd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae'r economi wybodaeth yn gryfgyda dwy Brifysgol uchel eu parch.
Ond rydym hefyd yn gwybod bod rhai heriau allweddol yn ein hwynegu ar ffurf denu busnesau newydd, creu mwy o gyfleoedd gwaith, cynnig cyfleoedd i bobl iau aros yn y sir a gwrthdroi'r duedd o enillion is o'u cymharu â gweddill Cymru. Mae demograffeg Ceredigion hefyd yn newid - mae poblogaeth gyffredinol y sir, ac yn enwedig y bobłogaeth oedran gweithio, wedi bod yn gostwng dros y chwe blynedd diwethaf. Pe na baem yn ceisio dylanwadu ar y canlyniad hwnnw, gallai'r sefyllfa hon ddwysáu oherwydd Covid-19 a Brexit.
Ceir rhai camdybiaethau y mae angen i ni eu herio hefyd – bod Ceredigion wedi ei gysylltu, mae'r dechnoleg Band Eang Ffibr Llawn sydd ar gael yng Ngheredigion yn uwch nag yng Nghymru gyfan. Ond ar yr un pryd mae angen rhagor o fuddsoddiad i godi cyfran gyffredinol yr adeiladau nad ydynt yn gallu derbyn band eang 2, 5, 10 a 30Mbit/e sy'n dal i fod yn uwch na gweddill rhanbarth y canolbarth a'r de-orllewin.
A heb anghofio, wrth gwrs, iechyd a llesiant cymunedau Ceredigion – mae'r amgylchedd naturiol hardd, cymunedau diogel a chyfleoedd eang ar gyfer hamdden yn cynnig amgylchedd o ansawdd uchel i fyw a gweithio ynddo.
Yn erbyn y cefndir hwn yr ydym wedi datblygu'r strategaeth hon i adeiladu ar ein cryfderau fel sir, i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni a mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu i dyfu'r economi leol dros y pymtheg mlynedd nesaf hyd at 2035.
Sut mae economi Ceredigion yn edrych? Dyma rai uchafbwyntiau ym mis Mawrth 2020.
GWERTH YR ECONOMI
£17,461 oedd y Gwerth Ychwanegol Gros fesul pen o'r boblogaeth yng Ngheredigion yn 2017, o'i gymharu â'r ffigur cenedlaethol o £19,899 y pen
DIBYNIAETH AR FICRO-FUSNESAU/BUSNESAU BACH Mae'r mwyafrif o fusnesau (99%) naill ai o faint micro (0-9 o weithwyr) neu'n fentrau bach (10-49 o weithwyr). Dim ond 0.5% sy'n fentrau canolig eu maint (50-249 o weithwyr)
ENILLION IS
£24,126 yw’r enillion blynyddol cyfartalog i’r rhai sy’n byw yng Ngheredigion, dros £2,000 yn liai na’r £26,267 ledled Cymru.
GWELLA CYSYLLTEDD
Er bod band eang a chysylltedd symudol yn gwella yn y sir, ceir 20% o adeiladau o hyd nad ydynt yn gallu derbyn cyflymder 30Mbit/e.
CYFRADDAU GOROESI CRYF I FUSNESAU
Mae 97.2% o fusnesau yn goroesi eu blwyddyn gyntaf a 52.8% yn goroesi eu pum mlynedd cyntaf, a dyma'r ffigyrau gorau yng Nghymru.
CYRHAEDDIAD ADDYSGOL RHAGOROL
Mae gan 78.7% o'r boblogaeth gymwysterau lefel NVQ, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 74.0%.
DIBYNIAETH AR Y SECTOR GWASANAETHU
- O'r 30,900 o bobl mewn gwaith, mae amcangyrif o 74.4% (23,000) wedi eu cyflogi yn y sectorau gwasanaethu.
COSTAU YNNI UWCH OND TWF O RAN YNNI ADNEWYDDADWY
Er bod prisiau ynni yn uwch yng Ngheredigion, mae gan y sir y ganran uchaf o ran defnydd o drydan sy'n cael ei fodloni trwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy.
Beth yw'r problemau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw?
Mae Ceredigion yn sir hyderus a deniadol lle mael lawer o'n pobl yn ffynnu ac yn datblygu, lle mael lawer wedi sefydlu busnesau llwyddiannus sy'n fynnu, a lle mael lawer o bobl yn hoffi ymweld. Mae gennym aer glân, lefelau gwych o fioamrywiaeth a thirwedd naturiol i genfigennu wrthi.
Mae'r potensial gennym i dyfu ymhellach, ac mae angen ini fynd i'r afael â nifer o heriau sylfaenol allweddol os ydym yn mynd i wireddu ein potensial llawn.
- Ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, mae poblogaeth Ceredigion wedi lleihau'n sylwedol, yn enwedig yn y proffil oedran 16-64. Yn gryno, mae pobl ifanc wedi allfudo o Geredigion, yn rhannol o ganlyniad i ostyngiad i nifer y swyddi sector cyhoeddus, sydd wedi bod yn rhan bwysig o economi Ceredigion erioed.
Oherwydd hyn, her arall yw tyfu maint, amrywiaeth a chydnerthedd y sector preifat yng Ngheredigion. Mae angen i ni weld mwy o fusnesau yn cychwyn, a mwy o'n micro-fusnesau a busnesau bach yn tyfu.
Hefyd, bydd angen i economi Ceredigion addasu newidiadau a heriau allweddol yn sgil penderfyniad y DU ymadael â'r UE.
I gefnogi poblogaeth a fydd yn tyfu yn y dyfodol, mae angen i ni allu parhau i fuddsoddi yn ein lleoedd, gan eu gwneud yn ddeniadaol ac yn fforddiadwy i'n pobl fyw a gweithio ynddynt, ochr yn ochr â thyfu'r economi ymwelwyr yn gynaliadwy.
Ein gweledigaeth a'n gwerthoedd
Gan adeiladu ar ein cryfderoedd, byddwn yn gweithio ar y cyd i roi mesurau ar waith i wrthdroi tueddiadau diweddar yn ein heconomi, gan fynd i’r afael â’n heriau allweddol i wireddu gweledigaeth o economi sy’n darparu dyfodol cynaliadwy i bawb sy’n dewis byw a gweithio yma.
Wrth baratoi'r fframwaith strategol hwn, rydym wedi siarad â llawer o bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredion ac sy'n rhedeg busnesau a sefydliadau yma. Yn gyfunol, rydym yn rhannu gweledigaeth debyg ac mae gennym lawer o werthoedd yn gyffredin. Bydd y gwerthoedd hyn yn ysgogi ein dull o ddatblygu a thyfu ein heconomi yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Mae pobl a busnesau Ceredigion yn rhai Cydnerth, a bydd angen iddyn nhw barhau i fod felly i ymateb i'r heriausy'n ein hwynegu yn ein heconomi, ein hinsawdd a'n cymunedau. Mae angen i ni sicrhau cydnerthedd ar draws ein holl sectorau i dyfu'n llwyddiannus ac yn gynaliadwy.
Rydym yn Anelu'n uchel. Mae gennym sylfeini cadarn – yn ein heconomi, ein haddysg, ein hamgylchedd, ein traddodiadau a'n diwylliant, a gallwn weld cyfleoedd i adeiladu ar y rhain mewn ffordd sy'n cynnwys rhagolygon arloesol, realistig a chyffrous ar gyfer y dyfodol i'r rhai sydd eiisiau bod yn rhan ohono.
Mae Ceredigion yn sir sy'n Rhwydweithio a bydd yn parhau felly – bydd yn tyfu'r economi trwy wrando ar anghenion ei phobl a deall yr anghenion hyn, gan hefyd ofalu am ei hamgylchedd a'i chymunedau.
Mae gan Geredigion lawyer o nodweddion Unigryw ac mae'n bwysig ein bod yn clodfori'r rhain ac yn eu defnyddio i greu cyfleoedd newydd.
- Mae'r 4 o werthoedd hyn, a grynhoir yn y geiriau allweddol - Cydnerthedd, Anelu'n uchel, Rhwydweithio ac Unigryw, yn sillafu CARU. Mae Caru Ceredigion yn rhan o hunaniaeth brand yr ydym yn gobeithio y bydd pawb sy'n adnabod Ceredigion yn gallu teimlo cysylltiad â hi.
Y dyfodol yr ydym am ei weld
Bydd Ceredigion yn magu hyder wrth iddi ddefnyddio ei hasedau – naturiol, ffeisegol a phobl – yn gynyddol i ddatblygu a thyfu'r economi. Bydd mwy o gyfleoedd yn cael eu creu gan fusnesau presennol a newydd i bobl o bob oed. Bydd mwy o fusnesau'n cael eu sefydlu a bydd busnesau'n tyfu, gan fwynhau'r amgylchedd cadarnhaol ar gyfer twf yma yng Ngheredigion. Bydd twf economaidd yn cael ei sicrhau'n gynaliadwy – gan hefyd barhau i chwarae ein rhan mewn ymdrin ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a helpu ein cymunedau i ffynnu ar draws Ceredigion gyfan. Bydd arloesedd wedi'i arwain gan fenter yn arwain at gyfleoedd gwaith newydd i bobl ifanc medrus sy'n cael eu haddysgu a'u hyfforddi yn ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion.
Bydd pobl ifanc sy'n dymuno aros yng Ngheredigion, yn ogystal â'r rhai a allai fod eisiau dychwelyd i fyw a gweithio yma neu symud yma am y tro cyntaf, yn gweld Ceredigion fel lle llawn cyfleoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein cymunedau yn dal i fod yn lleoedd bywiog lle gall ein diwylliant a'n hiaith Gymraeg ffynnu.
Cyd-destun a Chwmpas Strategol
Y cyd-destun polisi ar gyfer datblygu'r strategaeth
Polisiau a Strategaethau Cenedlaethol. Nod y strategaeth hon yw cyd-fynd yn Ilwyr â'r cyd-destun polisi cenedlaethol trwy hybu twf cynhwysol cynaliadwy sy'n flaenoriaethau i Lywodraethau Cymru a'r DU. Mae'n cyd-fynd yn agos â'r polisi cenedlaethol a amlinellir yn 'Ffyniant i Bawb' a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o ran ein dyheadau carbon isel a'n cynllun gweithredu economaidd.
Rhaglenni Rhanbarthol. Mae'r strategaeth hon yn cyd- fyd yn agos â'r blaenoriaethau newydd sy'n deillio o'n partneriaeth gyda Chyngor Powys a phartneriaid ehangach yn rhan o Tyfu Canolbarth Cymru – a bydd yn helpu i hysbysu'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol newydd i gefnogi ei ddarpariaeth yn lleol.
Cynllun Corfforaethol. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi nodi'n flaenorol yr heriau sy'n wynebu economi Ceredigion a'r cyfleoedd lawer sydd ganddo i ddarparu sail ar gyfer twf cydnerth yn y dyfodol. Dyna pam mae wedi nodi Rhoi Hwb i'r Economi fel ei flaenoriaeth gyntaf yn y Cynllun Corfforaethol cyfredol.
Cyd-fynd â strategaethau eraill
Bydd y strategaeth hon yn dylanwadu ar lawer o strategaethau a chynlluniau eraill sy'n cael eu llunio a'u darparu gan Gyngor Sir Ceredigion. Bydd darpariaeth y strategaeth hon hefyd yn cael ei dylanwadu gan strategaethau sy'n cael eu datblgu a'u rheoli gan Gyngor Sir Ceredigion a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Addysg / Sgiliau. Bydd ein gallu i gynhyrchu twfeconomaiidd yng Ngheredigion yn dibynnu ar fod âgweithlu brwdfrydig ac amryddawn i weithio yn y mentraua a fydd yn ysgogi'r twf hwnnw. Bydd strategaethau a chynlluniau gwasanaeth addysg Cyngor Sir Ceredigion, a rhai sefydliadau addysg Bellach ac Uwch sy'n gweithredu yng Ngheredigion yn ddylanwadol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau erail sy'n darparu hyfforddiant, sgiliau a mynediad at brentisiaid, i sicrhau bod anghenion cyflogwyr yng Ngheredigion yn cael eu deall a'u diwallu.
Seilwaith. Bydd ein gallu i dyfu'r economi yng Ngheredigion yn cael ei gyfyngu heb ddatblygu seilwaith sylfaenol ffyrdd, cysylltedd digidol ac ynni. Mae gan sefydliadau allweddol eraill dan sylw, yn enwedig Llywodraeth Cymru a darparwyr rhwydweithiau yn achos darparwyr ynni a chysylltedd digidol, strategaethau a chynlluniau gweithredu ar waith i ddiwallu'r anghenion seilwaith hyn. Bydd ein strategaeth economaidd yn hysbysu'r strategaethau ategol hynny.
Tai. Mae 'Tai i Bawb' – Strategaeth Dai Leol Ceredigion yn nodi sut y bydd anghenion tai holl drigolion Ceredigion yn cael eu diwallu. Ategir y strategaeth gan gynlluniau gweithredu a fydd yn rhoi sylw i ddynameg ac anghenion newidiol y boblogaeth. Bydd ysgogwyr economaidd newidiol yn hysbysu'r cynlluniau gweithredu hyn.
Strategaethau sectorol a phwnc. Bydd strategaethau lleol a chenedlaethol eraill sy'n rhoi sylw i feysydd buddiant a chyfle periodol yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein llwyddiant o ran tyfu'r economi yma. Mae enghreifftiau'n cynnwys strategaethau ar gyfer y sectorau Bwyd a Ffermio, strategaethau a chynlluniau adfywio canol trefi e.e. Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, strategaethau ymchwil a datblygu ac arloesi. Byddwn yn nodi ac yn manteisio ar yr holl gyfleoedd i gyfateb ein hanghenion a'n strategaethau â'r rhai ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol.
A wyddech chi?
O'r 30,900 o bobl sydd mewn gwaith yng Ngheredigion, cyflogir 74% yn y sectorau gwasanaethu, 12.9% yn y diwydiant twristiaeth, a 9.7% yn y diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu. Cynllunio. Gellir sicrhau twf economaidd dim ond pan fydd y seilwaith ategol ar gyfer y twf hwnnw wedi'i sefydlu. Mae hynny'n golygu'r angen i ddarparu safleoedd ac eiddo cyflogaeth strategol, tai ac i ystyried sut y datblygir ein trefi. Bydd darpariaeth y strategaeth hon yn cael ei dylanwadu gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLI). Bydd y CDLI a'i weithrediad hefyd yn cael ei ddylanwadu gan anghenion newidiol y strategaeth economaidd, yn ogystal â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.
Cynllunio. Gellir sicrhau twf economaidd dim ond pan fydd y seilwaith ategol ar gyfer y twf hwnnw wedi'i sefydlu. Mae hynny'n golygu'r angen i ddarparu safleoedd ac eiddo cyflogaeth strategol, tai ac i ystyried sut y datblygir ein trefi. Bydd darpariaeth y strategaeth hon yn cael ei dylanwadu gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLI). Bydd y CDLI a'i weithrediad hefyd yn cael ei ddylanwadu gan anghenion newidiol y strategaeth economaidd, yn ogystal â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.
Egwyddorion ac Ysgogwyr Allweddol
Egwiddorion sy'n sail i'r strategaeth
Cyfle – ysgogir y strategaeth gan y cyfleoedd sy'n bodoli i dyfu'r economi. Trwy weithio mewn partneriaeth, gallwn greu gyda'n gilydd yr amodau ar gyfer twf cynaliadwy. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd sydd gennym i dyfu'r economi, ond rydym hefyd yn cydnabod y ffactorau bywyd yng Ngheredigion sy'n ei gwneud yn ardal lle mae pobl yn hoffi byw – ardal werdd a glân sydd eisoes yn cyfrannu at leiihau effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Mae diogelu a gwella ein tirwedd a'n bioamrywiaeth a lleihau achosion niweidiol y newid yn yr hinsawdd ymhellach yn egwyddor craidd. Yn gysylltiedig â hyn, mae gennym ymrwymiad ac angen i ddatgarboneiddio ein heconomi. Bydd hon yn egwyddor sylfaenol arall i'r strategaeth. Byddwn yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu ffyrdd i dyfu mewn ffordd sydd hefyd yn tynnu carbon allan o'r atmosffer. Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle sydd gennym i helpu mentrau yng Ngheredigion i ddatgarboneiddio.
Byddn yn ceisio gweithredu'r egwyddor o gael ein harwain gan gyflogwyr er mwyn ysgogi arloesedd a'r agenda sgiliau, i greu'r amodau i greu swyddi o werth uwch yn yr economi. Bydd hyn yn cael ei gyflawni mewn nifer o ffyrdd, ac nid yw wedi'i gyfyngu i sectorau neu fathau o swyddi penodol. Mae'n golygu creu rhai cyfleoedd cyflogaeth mewn busnesau sydd mewn sectorau gwerth uwch yn gysylltiedig â'r sectorau economi ymchwil a gwybodaeth y mae gennym fantais gystadleuol ynddynt, er enghraifft amaeth-dechnoleg, biowyddoniaeth, technoleg sbectrwm ac awyrofod. Mae hefyd yn golygu y bydd mentrau yn yr economi sylfaenol yn dod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol, ac yn tyfu i alluogi datblygiad llwybrau gyrfaol sy'n arwain at gyfleoedd gwaith â chyflogau uwch. Diben y strategaeth yw cynyddu ffyniant yng Ngheredigion. Byddwn yn ystyriol o'r angen i sicrhau en bod yn mynd at i hybu ffyniant cyffredin. Mae hyn yn golygu sicrhau twf sy'n cyfrannu at gynyddu ffyniant mewn cymunedau ar draws tri rhanbarth Ceredigion. Mae hefyd yn golygu cyflawni uchelgais o gau'r bwlch ffyniant ariannol â chyfartaleddau Cymru a'r DU.
Diben y strategaeth yw cynyddu ffyniant yng Ngheredigion. Byddwn yn ystyriol o'r angen i sicrhau en bod yn mynd at i hybu ffyniant cyffredin. Mae hyn yn golygu sicrhau twf sy'n cyfrannu at gynyddu ffyniant mewn cymunedau ar draws tri rhanbarth Ceredigion. Mae hefyd yn golygu cyflawni uchelgais o gau'r bwlch ffyniant ariannol â chyfartaleddau Cymru a'r DU.
Egwyddor sylfaenol bwysig arall yw'r angen i ddiogelu a gwella ein hunigrywedd a'n hunaniaeth diwylliannol, a helpu i roi hwb i gydnerthedd a thwf y Gymraeg. Byddwn yn adeiladu ar waith a wnaed yn rhan o brosiect Arfor i nodi'n llawn y cyfleoedd i wireddu cyfleoedd i helpu'r Gymraeg i ffynnu trwy gamau datblygu economaidd cadarnhaol. Yn ei hanfod, bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy sicrhau bod gan y rhai sy'n siarad Cymrueg yr hyder, y sgiliau a'r cyfleoedd i ddatblygu busnesau, i weithio mewn swyddi o werth uwch, ac i weld Ceredigion fel lle ffniannus ac egniol i fyw a gweithio ynddo.
Mae'r egwyddorion hyn yn parhau i fod yn berthnasol nawr wrth i'r economi addasu i heriau Covid a Brexit.
- Fframwaith ar gyfer gweithredu yw'r strategaeth hon. Mae'r data, y syniadau a'r wybodaeth a gafwyd drwy'r camau cynllunio, ymgysylltu ac ymgynghori wedi ein cynorthwyo ni i lunio'r camau gweithredu sydd i'w gweld yn ddiweddarach yn y ddogfen. Byddwn yn parhau i gydweithio â'n rhanddeiliaid wrth i ni ddatblygu a gwireddu'r camau gweithredu manwl hyn i helpu â'r gwaith o gyflawni'r uchelgeisiau a nodir. Byddwn yn hyblyg yn y ffordd y byddwn yn ymateb i gyfleoedd a syniadau newydd a ddaw yn sgil ymgsylltu parhaus â'r bobl sydd wedi gweithio gyda ni ar y broses o ddatblygu'r strategaeth hon, ynghyd â phobl erail y byddwn yn cwrdd â nhw sydd â rhan yn nyfodol Ceredigion.
A wyddech chi?
Mae tua 285 o fusnesau yn y sector Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol yng Ngheredigion, sy'n cynnwys ymchwil a datblygu gwyddonol. Mae'r sector hwn yn tyfu ac wedi'i gyfuno â'n heconomi wybodaeth gref, mae'n creu'r amodau ar gyfer swyddi â chyflog uwch a thwf economaidd.
Y diwydiannau amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yw tua 4.5% o'r mentrau yn economi Ceredigion
Cacennau cartref Ridiculously Rich yw un o hanesion o Iwyddiant entrepreneuriaeth yr economi leol ac fe'u dosberthir i bob cwr o'r DU
Yr hyn a ddywedasoch chi wrthym...
Paratowyd y strategaeth hon yn dilyn llawer o ymgsylltu â'r rhanddeiliaid allweddol. Bu inni ymgynghori ar y strategaeth ddrafft, a chawsom gefnogaeth gadarnhaol iawn ar y cyfan. Roedd y rhai a ymatebodd yn teimlo bod y blaenoriaethau a'r camau gweithredu cywir wedi'u nodi. Mae adroddiad am yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael. Cyflwynwyd nifer o sylwadau, awgrymiadau a syniadau, ac mae llawer o'r rchain, lle'oedd gennym dystiolaeth bod yna gefnogaeth eang iddynt, wedi'u cynnwys yn y Strategaeth. Rhestrir y prif themâu o'n gwaith ymchwil ac ymgynghori isod. Fe'u defnyddiwyd i lunio'r Strategaeth Economiaidd i helpu i bennu ein blaenoriaethau i dyfu economi Ceredigion dros y pymtheg mlynedd nesaf. Gellir eu grwpio o dan y pedair blaenoriaeth ganlynol:
Pobl
- Gostyngiad i’r bobłogaeth oedran gweithio (16-64) a chynnydd i’r bobłogaeth 65+ • Cynnydd i gymudo o’r ardal dros y pum mlynedd diwethaf
- Cynydd i gymudo o'r ardal dros y pum mlynedd diwethaf
- Lefel cyrhaeddiad addysg uchel
- Cadarnle'r Gymraeg a diwyelliant Cymru
- Trydydd Sector a chyfraddau gwirfoddoli cryf
- Canolbwyntio ar gyfleoedd gwaith crefftus i bobl ifanc
- Defnydd mwy effeithiol o sgiliau a phrofiad pobl hyn i sicrhau twf cynhwysol
- Sicrhau bod hyfforddiant sgiliau yn canolbwyntio ar anghenion cyflogaeth a chyfleoedd i bawb
Lleodedd
- Heriau natur wledig – amddifadedd, mynediad at wasanaethau, costau ynni uwch a thai fforddiadwy
- Canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â fforddiadwyedd tai, yn enwedig i bobl ifanc leol, er mwyn galluogi twf economaidd
- Ansawdd bywyd uchel a lle diogel i fyw ynddo
- Amgylchedd naturiol hardd ac o bwysigrwydd gwyddonol
- Safleoedd cyflogaeth ffyniannus a arweinir gan anghenion
- Trefi fel mannau byw, gweithio a hamdden ffyniannus
- Adeiladu ar y cyfleoedd sy'n bodoli ar ôl Covid i bobl fyw a gweithio yng Ngheredigion yn Ilwyddianus
Strategaeeth Economiaidd Ceredigion 2020-2035
Menter
- Gor-ddibyniaeth ar micro-fentrau a mentrau bach, a diffyg mentrau canolig eu maint – y ‘canol coll’ fel y'i gelwir • Enillion isel o'i gymharu â Chymru yn ei chyfanrwydd
- Enillion isel o'i gymharu â Chymru yn ei chyfanrwydd
- Dibyniaeth ar gyflogaeth sector cyhoeddus a'r sector gwasanaethu yn gyffredinol
- Denu mentrau newydd a hyrwyddo Ceredigion fel lle i gyflawni busnes, i ymweld ag ef, ac i'w fwynhau
- Creu cyfleoedd i gadw pobl ifanc yn y sir a chadw eu sgiliau yn y gweithlu
- Denu swyddi ychwanegol a rhai â chyflogau uwch
- Cymorth i fusnesau newydd a phresennol
- Sector gwybodaeeth cryf yn y sir
- Llai o fyfyrwyr ond cyfraddau bodionrwydd uchel
- Cyfraddau goroesi da i fentrau newydd
- Gweithio gyda'r diwydiant Amaethyddol i adeiladu ar ei safle traddodiadol fel sbardun i'r economi yng Ngheredigion, trwy fanteisio ar yr arbenigedd ymchwil a datblygu sydd ar stepen y drws
- Adnewyddu ein dull o ddatblygu a hyrwyddo'r economi ymwelwyr sy'n adeiladu ar gryfderau ein hasedau diwylliannol a naturiol.
Rhai ffeithiau allweddol am ein sir...
Poblogaeth: 72,992
Poblogaeth 65 oed a hyn: 24.9% Poblogaeth ag anabledd: 10.0% Oed cyfartalog: 46.1 Siaradwyr Cymraeg: 47.3%
Lleoedd Maint y sir: 1,900 km²
Pobl Poblogaeth: 72,992
Maint y sir: 1,900 km²
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig: 14
Aelwydydd: 31,500
Dwysedd: 0.4 person yr hectar
Menter Nifer y mentrau gweithredol: 2,810
Cysylltedd
- Band eang a chysylltedd symudol yn gwella
- Ond mae angen rhagor o fuddsoddiad a datblygiad mewn seilwaith digidol i gynorthwyo mentrau a mynediad defnyddwyr at wasanaethau
- Datblygu seilwaith trafnidiaeth ffisegol – ffyrdd, rheilffyrdd a chludiant cyhoeddus
- Amseroedd cymudo uwch na'r cyfartaledd i weithwyr
- Tybiaeth nad yw Ceredigion wedi ei ‘chysylltu’
- Manteisio ar gyfleoedd yn y sector ynni adnewyddadwy sy'n tyfu
Nifer y mentrau gweithredol: 2,810
Cyfradd oroesi mentrau newydd: 97.2% Diwydiant mwyaf: Addysg (15.4%) Cyfradd cyflogaeth: 66.1%
Cefnogi ein Sectorau Allweddol
Mae Ceredigion wedi bod yn economi a seiliwyd ar swyddi sector cyhoeddus yn draddodiadol. Mae sefydliadau Addysg Uwch allweddol yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn gyflogwyr pwysig ac yn ysgogwyr yr economi yn ogystal â sefydliadau allweddol eraill fel y Llyfrgell Genedlaethol a'r Awdurdod Lleol.
O ran swyddi sector preifat, amaethyddiaeth fu asgwrn cefn yr economi wledig a chymunedau Ceredigion. Mae'n parhau i fod yn sector pwysig a byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant amaethyddol ochr yn ochr â sefydliadau cymorth eraill, i chwarae ein rhan wrth helpu'r diwydiant i ddatblygu ac addasui newid. Rydym yn berchen ar nifer o ddaliadau amaethyddol, ac rydym am weld y rhwydwaith hwnnw o ddaliadau yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth addasu i gyfleoedd a heriau newydd, ochr yn ochr â'n gallu ymchwil ac arloesi rhagorol yn y sector amaeth-dechnoleg. Mae gennym hefyd sector ffyniannus o ran yr economi ymwelwyr, sydd bellach yn cyflogi dros 7,000 o bobl yn y sir, o gynnwys y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau twristiaeth, llety a gwasanaethau bwyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector yn eu hydrechion i arloesi, gwella ansawdd a chynyddu gwerth trwy fanteisio ar ein cryfderau craidd yn y sector hwn.
Mae'r 4,000 o bobl sy'n gweithio ym maes masnach cyfanwerthu a manwerthu yn cyfrannu at y cyfanswm o 74% o'r bobłogaeth weithio a gyflogir yn y sectorau gwasanaethu. Bydd rhai meysydd cyflogaeth yn y sector hwn (gan gynwys manwerthu) yn parhau i wynebu heriau, tra bod erail yn cynnig cyfleoedd cynddol. Yn nodedig, cyflogir 1,600 o bobl mewn gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, gan fanteisio ar wybodaeth, sgiliau a chryfderau newydd yn ogystal â rhai traddodiadol. Mae sectorau allweddol sydd wedi dod i'r amlwg ac sy'n cynyddu o ran pwysigrwydd yn cynnwys gwyddorau Amgylcheddol a Phlanhigion, Awyrofod, gwyddor Biofeddygol ac Amaeth-dechnoleg. Mae lleoliadau allweddol yn cynnwys Aberystwyth ac Aberporth.
yn cynnwys Aberystwyth ac Aberporth.
Er bod gan Geredigion sector gweithgynhyrchu bach, mae ganddi bresenoldeb sylweddol o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd mewn safleoedd strategol yn Aberystwyth a Dyffryn Aeron, tra bod nifer gynyddol o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd bach ac arloesol hefyd yn bodoli.
Mae'r Economi Sylfaenol, gan gynnwys y sectorau manwerthu, amaethyddiaeth, gwasanaethau bwyd, adeiladu a gofal hefyd yn ysgogwyr allweddol yr economi, yn ogystal â thrydydd sector sy'n ffynnu.
Mae Ceredigion yn gartref i economi celfyddy dau a diwylliant fywiog, sy'n cyflogi dros 400 o bobl. Yn ogystal â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddy dau yn Aberystwyth, ceir canolfannau allweddol yn ardal y canolbarth a'r de, a chynlluniau ar gyfer tyfu'r sector yn y dyfodol gyda chynlluniau fel yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar fin gwneud cyfraniad gwirioneddol at dyfu'r sector.
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid allweddol i helpu gynyddu cyfleoedd gwaith yng Ngheredigion.
Bydd hyn yn cael ei wneud yn bennaf trwy dyfu nifer y busnesau yng Ngheredigion, a hefyd tyfu nifer y bobl a gyflogir gan ein busnesau. Efallai y byddwn hefyd yn gweld rhywfaint o dwf o ganlyniad i fentrau'r sector cyhoeddus – yn enwedig cyflwyno'r buddsoddiadau mewn cyfleusterau Ymchwil a Datblygu mewn sectorau allweddol, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu uwch a chyfleoedd erail sy'n seilieidig ar ymchwil a datblygu.
Bydd twristiaeth yn parhau i chwarae rhan allweddol o rantytu ein heconomi. Bydd buddsoddiadau mewn cyfleusterau allweddol, gan gynnwys yr harbyrau a chyfleusterau eraill o ansawdd uchel, digwyddiadau a sefydliadau twristiaeth bwyd yn cynyddu gwariant ymwelwyr ac yn mynd i'r afael â'r natur dymhorol. Bydd yr economi sylfaenol fel bwyd-amaeth, adeiladu a manwerthu yn parhau i fod yn bwysig, a byddwn yn ceisio ehangu a chryfiau'r rhan honno o'n heconomi trwy dodd o hyd i ffyrdd newydd o annog gweithgarwich newydd ac arloesol yn barhaus, a fydd yn helpu ein pobl, ein busnesau a'n lleoedd i ddatblygu a ffynnu.
Bydd yr economi sylfaenol fel bwyd-amaeth, adeiladu a manwerthu yn parhau i fod yn bwysig, a byddwn yn ceisio ehangu a chryfiau'r rhan honno o'n heconomi trwy ddo d o hyd i ffyrdd newydd o annog gweithgarwch newydd ac arloesol yn barhaus, a fydd yn helpu ein pobl, ein busnesau a'n lleoedd i ddatblygu a ffynnu.
Rydym yn rhagweld y bydd y trydydd sector (mentrau cymunedol a chydweithredol) hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn twf yn y dyfodol trwy sicrhau bod gan y twf sail eang a'i fod yn gynhwysol.
Gallai'r dyfodol fod...
Bydd Ceredigion yn manteisio ar gryfderau ei sectorau craidd yn yr economi sylfaenol a'r diwydiannau ymchwil uwch / seilledig ar wyddoniaeth, i greu cyfleoedd gwerth uchel wedi'u harwain gan gyflogwyr i'w gweithlu cynyddol fedrus. Bydd Ceredigion yn parhau i fod yn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef, gyda mannau diddorol lle mae diwylliant a'r Gymraeg yn ffynnu, a fydd yn cadw ei unigrywedd a'i apêl fel lle gwych i fod ynddo. Bydd datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein ffordd o weithio a byddwn yn canolbwyntio ar amddiffyn ein hecoleg a'n bioamrywiaeth gan gyflawni ein huchelgeisiau o ran twfeconomaiidd, a manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu ein hasedau gwyrdd a chynyddu cyfleoedd pobli w defnyddio a'u mwynhau.
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn Llandysul yn ganolfan technoleg fwyd benodedig sy'n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd sbon, BBaChau a gweithgynhyrchwyr bwyd presennol
Blaenoriaeth 1: Pobl Byw, gweithio a thyfu yng Ngheredigion
Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol
Ble ydym ni nawr?
Mae Ceredigion yn lle i fyw lle gellir cael bodhdad mewn bywyd, a lle gellir gwireddu uchelgeisiau proffesiynol gan fwynhau profiadau bywyd o ansawdd gwirioneddol.
Ceir tybiaeth ymhlith rhai mai prin yw'r cyfleoedd proffesiynol i bobl ifanc ddilyn gyrfa llawn boddhad yng Ngheredigion, ac mai'r unig ddewis yw symud o'r ardal i astudio, byw a gweithio. Er y bydd rhai yn symud i wireddu eu dyheadau astudio a gyrfaol i ffwrdd o'r fan yma, ceir cyfleoedd gwirioneddol i'r rhai sy'n dymuno aros.
Ein huchelgais yw gweld pobl ifanc sy'n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion yn cael gwireddu'r cyfleoedd i wneud hynny.
Ystyrir Ceredigion gan lawer hefyd fel lle gwych i gychwyn busnes, gan fwynhau hefyd y manteision niferus a geir o fyw yng Ngheredigion.
Gall Ceredigion dddod yn gyrchfan fwy deniadol fyth i ymwelwyr â'r ardal, ac i bobl sy'n dymuno symud yma i astudio, i fyw ac i weithio. Rydym hefyd eisiau manteisio ar sgiliau ac uchelgeisiau pawb sy'n byw yng Ngheredigion ac sy'n symud yma i astudio a gweithio. Yn syml, rydym yn dymuno i Geredigion fod yn lle ar gyfer twf cynhwysol.
I gyflawni ein huchegleisiau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod mwy o bobl o bob oed yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu yma. Hefyd, bydd angen i nisicrhau y gallwn ddarparu hyfforddiant i bobl o bob oed fel y gall cyflogwyr ysgogi twf economaidd Ceredigion drwy eu gweithwyr.
“Ein huchelgais yw gweld pobl ifanc sy'n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion yn cael gwireddu'r cyfleoedd i wneud hynny”
I Geredigion, mae hyn yn golygu gwireddu'r potensial i bawb sy'n byw ac yn gwethio yng Ngheredigion ac yn ymweld. Wrth i ni dyfu, dylai'r holl bobl yng Ceredigion gael y cyfle i rannu'r manteision.
Mae Ceredigion yn cynnwys ansawdd bywyd uchel i drugolion ac ymwelwyr
Mae cyflogwyr yng Ngheredigion angen pobl sydd â'r sgiliau priodol i lenwi swyddi gwag sy'n cynnig cyfleoedd gyrfaol hirdymor.
Hoffem i'r Sir fanteisio ar brofiad, sgiliau a gwybodaeth pobl sydd wedi gadael Ceredigion a bellach eisiau dychwelyd i fyw, creu busnes newydd a / neu weithio yma. Yn yr un modd, rydym am ddefnyddio'r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth sydd gan bobl dros 65 oed fel modd o sbarduno twf economaidd.
Ein huchelgais yw gwrthdroi'r gostyngiad i'r boblogaeth ifanc ac o oedran gweithio, ac rydym eisiau gweld pobl Ceredigion yn gallu mynegi eu hunigrywedd yn hyderus mewn cymunedau cryf o ran hunaniaethau, diwylliant ac iaith.
Beth yw twf cynhwysol?
Mae angen i ni sicrhau bod angen pobl am dai, cysylltedd a chyfleoedd cymdeithasol yn cael ei ddiwallu.
Gyda’n gilydd, gallwn fod yn ffyddiog y gall Ceredigion ysbrydoli pobl ac y gallwn fod yn uchelgeisiol.
A wyddech chi?
Mae gan bobłogaeth Ceredigion lefelau sgiliau llawer uwch na'r cyfartaleddd – mae gan dros 78% gymwysterau NVQ Lefel 2, sy'n uwch na'r cyfartaleddd cenedlaethol o 74%.
Blaenoriaeth 1: Pobl
Byw, gweithio a thyfu yng Ngheredigion
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud
Mae gennym ni system addysg ragorol sy'n sicrhau canlyniadau rhagorol i ddysgwyr. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr addysg yng Ngheredigion i greu cysylltiadau mwy cadarn gyda chyflogwyr, fel bod gwasanaethau addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd yn bendant ag anghenion y cyflogwyr hynny.
I fynd i'r afael å'r dybiaeth o ddiffyg cyfleoedd yng Ngheredigion, byddwn yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o lwybrau gyrfaol llawn boddhad sydd ar gael yng Ngheredigion, gyda chefnogaeth hyfforddiant priodol i bobl o bob oed.
Byddwn yn archwilio ffyrdd, gan weithio gyda’n partneriaid, i sicrhau bod ein mentrau yn gwybod y gallant gael mynediad at gronfa o bobl sydd â’r sgiliau priodol i alluogi twf. Bydd pobl ifanc sy’n byw ac yn astudio yng Ngheredigion yn ymwybodol o ehangder a chwmpas y cyfleoedd hynny, ac yn gwybod sut i fanteisio arnynt.
Byddn hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid i helpu i wireddu potensial pawb sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion. Bydd pobl â sgiliau a phrofiad a enillwyd mewn mannau erail yn gweld Ceredigion fel man lle gellir rhoi'r sgiliau hynny at ddefnydd da. Bydd Ceredigion yn cael ei hystyried fel lle gwych i gychwyn a thyfu busnes, gydar hwydwaith ffurfiol ac anffurfiol o gymorth sy'n helpu pobl a mentrau i lwyddo.
Byddn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed trwy Arfor a mentrau eraili sydd â'r nod o ddeall sut y gallwn ddatblygu'r economi mewn ffordd sy'n helpu i roi hwb i nifer y siaradwyr Diben hyn fydd cadw pobl ifanc (a anwyd yma neu sydd wedi symud i astudio yma) yng Ngheredigion, gan ddenu erail yn ôl i'r sir, a chynnig y cyfle i eraili ddysgu a bod yn hyderus wrth ddefnyddio'r iath.
Diben hyn fydd cadw pobl ifanc (a anwyd yma neu sydd wedi symud i astudio yma) yng Ngheredigion, gan ddenu eraill yn ôl i'r sir, a chynnig y cyfle i eraill ddysqu a bod yn hyderus wrth ddefnyddio'r iath.
Pwy sydd angen cymryd rhan?
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bobl a sefydliadau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Bydd Gwasanaeth Addysg Ceredigion a sefydliadau Addysg Uwch yng Ngheredigion yn partneriaid craidd o ran cyflawni ein huchelgeisiau.
Bydd gwasanaethau erail yng Nghytngor Sir Ceredigion yn chwarae rhan hefyd, gan gynnwys Gwasanaeth Pobla Threfniadaeth y Cyngor a Cered.
Bydd Llywodraeth Cymru, ei hadrannau perthnasol a chyrff a ariennir ganddi yn partneriaid allweddol.
Bydd darparwyr addysg a hyfforddiant sector preifat a thrydydd sector yn bartneriaid allweddol hefyd, yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus perthnasol erail a ariennir, fel Gyrfa Cymru.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol newydd Canolbarth Cymru.
Yn bwysig, bydd hon yn agenda sgiliau a arweinir gan gyflogwyr, felly bydd ein cyflogwyr yn rhan o'r gwaith o'i llunio a'i darparu. Byddwn hefyd yn gweithio gydag unigolion a all helpu i fentora, ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi ein pobl mewn ffyrdd eraill i wireddu eu potensial yn llawn.
Byddwn hefyd yn gweithio gydag unigolion a all helpu i fentora, ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi ein pobl mewn ffyrdd eraill i wireddu eu potensial yn llawn.
Astudiaeth Achos: Osian a Catrin, Caffi a Becws CRWST, Aberteifi
Roedd gan Osian a Catrin freuddwyd o fod yn berchen ar gaffi a becws. Fe wnaethant symud yn ôl i'r gorllewin a chael eu hysbrydoli i bobi bara a chacennau crefftus i'w gwerthu yn y farchnad leol wythnosol yn Aberteifiynghyd â chyflenwi chwe siop leol. Yn 2018 agorodd CRWST yn Aberteifi ei ddrysau, gan weini brunch, bara, danteithion pob a choffi.
Yn fuan, yn sgil llwyddiant eu cynhyrchion aethant ati i sefydlu lleoliad ar wahân ar gyfer y becws. Fodd bynnag, nid yw bod yn entrepreneur byth yn hawdd! Daeth Covid-19 â'i heriau ei hun gydag Osian a Catrin yn gorfod addasu eu model busnes - symud ar-lein, dosbarthu o ddrws i ddrws a chreu citiau pobi gartref.
“Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi cymryd y cyfle hwn a dilyn ein breuddwydion. Yr allwedd i lwyddiant ein busnes yw ein brwdfrydedd dros gynhyrchu'r bwyd gorau, i barhau i fod yn arloesol wrth ddatblygu ein busnes a'r gefnogaeth barhaus gan bobl leol a thwristiaid.”
Blaenoriaeth 1: Pobl
Byw, gweithio a thyfu yng Ngheredigion - ymyriadau cynnar arfaethedig
Yr hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni
Beth fydd yn cael ei wneud?
Creu cysyltiadau cryfach rhwng cyflogeion y dyfodol a chyflogwyr. Datblygu rhaglen profiad gyrfaol a arweinir gan gyflogwyr, gan gynnig cyfleoedd i gyflogwyr a'u darpar gyflogeion ddatblygu perthynas. Nifer y cyflogwyr sy'n cymryd rhan Nifer y disgyblion a'r myfrywyr sy'n cymryd rhan Mwy o ymwybyddiaeth o gyfleoedd a gofynion sgiliau Busnesau / Cyflogwyr yng Ngheredigion CS Ceredigion Ysgolion, Colegau, Prifysgolion a darparwyr Sgiliau Lansio yn 2021 Cwbl weithredol erbyn 2023
Gweithlu medrus ac arloesol a arweinir gan gyflogwyr Cynorthwyo datblygiad a gweithrediad Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol newydd Canolbarth Cymru Ymchwilio i sefydlu 'Cronfa dalent Ceredigion' Nifer y myfyrwyr à chymwysterau perthnasol Tysiolaeth bod gweithlu à sgiliau priodol ar gael yn well i gyflogwyr Busnesau / Cyflogwyr yng Ngheredigion CS Ceredigion Ysgolion, Colegau, Prifysgolion a darparwyr Sgiliau Cyflawni gwelliannau bob blwyddyn o 2021
Mwy o bobl yn manteisio ar raglenni Prentisiaeth / ymchwilio i sefydlu busnes hyd braich i helpu mwy o gyflogwyr ddarparu prentisiaethau. Mesur nifer y prentisiaid sy'n gweithio yng Ngheredigion i olrhain cynnydd 2022
Creu diwyliant sy'n canolbwyntio ar entrepreneurshipniaeth. Hyrwyddo Entrepreneuriaeth fel dewis gyrfaol gwirioneddol a allai gynnig boddhad i bobl ifanc yn ogystal ag ail ddewis gyrfa neu ddewis gyrfa yn ddiweddarach mewn bywyd Nifer y busnesau newydd sbon Y ddarpariaeth o raglenni entrepreneuriaeth Nifer sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni CS Ceredigion Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion Darparwyr sgiliau Llywodraeth Cymru / Busnes Cymru Sefydliadau Tryddyd Sector Gweld gwelliannau o 2021
Hyrwyddo Ceredigion fel lle cadarnhaol i fyw, astudio, gweithio a thyfu Cyflwyno ymgyrch gyfathrebu ragweithiol mewn partneriaeth â phartneriaid perthnasol i hyrwyddo negeseuon cyson am gyfleoedd a gweithgarwich yng Ngheredigion. Cyflwyno cynigion i helpu i fynd i'r afaal â heriau allweddol fel tai fforddiadwy i bobl ifanc. Sicrhau straeon cadarnhaol yn y cyfryngau yn lleol ac yn genedlaethol. Tysiolaeth o fentrau a gyflwynwyd i wellia fforddiadwydd tai. CS Ceredigion Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion Darparwyr sgiliau Llywodraeth Cymru / Busnes Cymru Sefydliadau Tryddyd Sector Cymdeithasau Tai Lansio'r rhaglen yn 2021
Hyrwyddo cyfleoedd cadarnhaol i bawb fanteisio ar dwf economaidd Adeiladu ar wersi o gynllun Arfor a gwaith ymchwil perthnasol i greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg Arwy dwf economaidd. Gweithio i hyrwyddo buddion cyflogi gweithlu cynhwysol. Cynllun gweithredol seiliedig ar werthusiad Arfor. Cynllun cyfathrebu i hyrwyddo cynhwysedd. Cered Llywodraeth Cymru Partneriaid yn Awdurdodau Lleol Aelodau Fforwm Anabledd Ceredigion 2021 yn barhaus
Sut y byddwn yn mesur cynnydd? Pwy fydd yn cymryd rhan? Erbyn pryd y bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Erbyn pryd y bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Blaenoriaeth 2: Lle Ceredigion Unigryw
Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol
Rydym yn dymuno i Geredigion barhau i fod yn fan lle maepobl eisiau byw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Yn y dyfodol, bydd angen i ni ddeall anghenion newidiol ei thrigolion, ei gweithwyr a'i hymwelwyr yn ogystal â'r heriaua ddawe o ganlyniad i newid hinsawdd gan addasu mewnbyd sy'n newid yn sgil pandemig Covid-19 a Brexit.
Yn rhan o'n gwledigaeth, bydd gan Geredigion:
- Dai sy'n diwallu anghenion ei demograffeg sy'n newid gan gynnwys atebion i alluogi pobl leol i gael mynediad at dai fforddiadwy
- Safleoedd cyflogaeth strategol a mannau gwaith erail sy'n diwallu anghenion cyflogaeth yn y dyfodol
- Tirwedd a mannau gwyrdd sy'n cyfrannu at lesiant pobl a'r blaned
- Trefi sy'n darparu mannau byw, gweithio a chymdeithasol sy'n ffynnu
- Asedau naturiol a ffisegol y gall trigolion ac ymwelwyr fanteisio arnynt a'u mwynhau.
Mae byw yn Ceredigion yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden Strategaeth Economiaidd Ceredigion 2020-2035
Ble ydym ni nawr?
Yn hanesyddol, mae pobl a mentrau o Geredigion wedi gadael eu hól ar lwyfan y byd yn ddiwylliannol a thrwy arbenigedd ymchwil ac allforio cynhyrchion.
Mae pobl sy'n byw yng Ngheredigion yn rhoi sgör o 7.8 allan o 10 o ran eu bodlonrwydd mewn bywyd, ac mae 85% yn fodlon neu'n fodlon iawn gyda'r amgylchedd ym aent yn byw ynddo. Mae pobl yn cydnabod eu bod yn byw mewn rhan wych o'r byd. Mae dros 2.7 miliwn y flwyddyn o ymwelwyr â Cheredigion hefyd yn dangos pa mor ddeniadol yw'r sir.
Fodd bynnag, ceir heriau, ac mae'n rhaid i ni barhau i ddatblygu ein lleoedd i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol o drugolion ac ymwelwyr. Mae ein heriau allweddol presennol yn cynnwys:
- Yr angen i ddarparu tai fforddiadwy a hygyrch sy'n diwallu anghenion demograffeg a gweithlu sy'n newid.
- Ailddiffinio diben ein canolfannau allweddol yng ngoleuni newidiadau i arferion manwerthu a'r effaith ddilynol ar strydoedd mawr.
- Y ddarpariaeth o gyfleusterau sy'n cynnig adloniant deniadol drwy'r flwyddyn i drisolion ac ymwelwyr.
- Diogelu a gwella ein hasedau naturiol gwyrdd i alluogi pobl i fanteisio arnynt a'u mwynhau, yn ogystal â chyfrannu at y frwyddar yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Astudiaeth Achos: Aberteifi
Mae Aberteifi dros y blynyddoedd diwethaf wedi gweld adnewyddiad yn sgil datblygu nifer o fentrau gyda'r nod o adfywio'r dref a'r ardal gyfagos. Yn arwyddocaol, mae'r rhain yn fentrau sydd wedi'u harwain gan unigolion, sefydliadau a phartneriaethau lleol.
Mae datblygiadau fel trosglwyddo asedau lleol i berchnogaeth gymunedol; mentrau newydd sydd wedi dod i'r amlwg; twf y sector menter gymdeithasol ac adfywiad adeiladau hanesyddol gan gynnwys Neuadd y Dref a Chastell Aberteifi a hynny gan ddefnyddio gwahanol ddulliau o ariannu, i gyd wedi arwain at lwyddiant lleol a mwy o fywiogrwydd yn y dref.
Aberteifi oedd y dref gyntaf yng Ngheredigion i lansio ap a chynllun Wi-Fi trefol ei hun, gan ddangos y gall busnesau lleol, drwy ddefnyddio dadansoddeg, dddod i adnabod eu cwsmeriaid ac addasu i ddiwallu eu hanghenion a'u harferion er budd yr economi leol.
Mae Aberteifi yn parhau i edrych i'r dyfodol wrth iddi geisio cwrdd â'r heriau a bachu ar y cyfleoedd hynny yn y dyfodol!
Cyhnhelir Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar Rodfa'r Gogledd ar Sadwrn cyntaf a thrydydd Sadwrn bob mis
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud
Bydd Ceredigion yn parhau i edrych tuag allan a cheisio tyfue ei chysylltiadau rhyngwladol trwy ymdrechion diwylliannol, academaidd a menter. Byddwn yn parhau i weithio gyda threfi allweddol ym mhab un o dri rhanbarth Ceredigion i adeiladu ar y gwaith a wneir wrth ddatblygu'r Cynlluniau Lle, fel sylfaen ar gyfer ceisio sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau adfywio allweddol.
Byddn yn adolygu, yn diweddaru neu'n datblygu cynlluniau mawr ar gyfer pob un o'n hardaloedd, gan nodi gwleidgaeth ar gyfer datblygu rhannau allweddol o'n trefi, a dangos sut y gellir datblygu cynigion o ran tai, trafnidiaeth, cyflogaeth, adloniant a manwerthu yn y dyfodol. Byddn yn gwneud hyn trwy weithio mewn partneriaeth - yn fewnol, a chyda rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol - i helpu i greu gwleidgaeth ar gyfer trefi ym mhab rhan o Geredigion, a chefnogi datblygiad prosiectau cyfalaf a refeniw i gyflawni'r cynlluniau.
Byddwn yn sicrhau bod anghenion datblygol yr economi yn cael eu hadlewyrchu yn y dadansoddiad o anghenion tai yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi, mewn partneriaeth ag eraill, yn seilwaith gwyrdd y sir, gan sicrhau bod digonedd o gyfleoedd i fanteisio ar ein hamgylchedd naturiol a'i fwynhau.
Byddn yn gweithio i dmenu buddsoddiad sector preifat a sector cyhoeddus i gefnogi datblygiadau seilwaith allweddol sy'n galluogi pobl i ymweld a mwynhau'r hyn sydd gan Geredigion i'w gynig.
Pwy sydd angen cymryd rhan?
Cydgynhyrchwyd y cynlluniau lle gan gynnwys yn y trefi ar draws tri rhanbarth Ceredigion, gan weithio gyda chynghorau cymuned a chynghorau tref lleol a grwpiau cymunedol a busnes eraili sydd â rhan yn y rhaglenni economaidd ac adfywio ar gyfer ein trefi.
Byddn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r rhai sy'n ymwneud â datblygu'r cynlluniau lle, ac yn gweithio gyda phartneriaid darparu erail ac ariannwyr posibl (er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru) i nodi cyfleoedd i wireddu'r weledigaeth yn y cynlluniau lle, a'n huchelgeisiau eang i ddatblygu ein hasedau naturiol a ffisegol.
Mae tirwedd hardd Ceredigion o bwysigrwydd gwydddonol hefyd – ceirdros 100 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y sir
Mae gan Ceredigion dros
100 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
14 ardal cadwraeth arbennig
a'r unig Biosffer yng Nghymru
A wyddech chi?
Ceredigion yw un o'r lleoedd mwyaf iach i fyw yng Nghymru a'r DU – mae'r disgwyliad oes o 81 oed i ddynion ac 84 oed i fenywod yn uwch na'r cyfartaledd, ac mae bodlonrwydd bywyd yn parhau i gynyddu.
Blaenoriaeth 2: Lle Ceredigion Unigryw - ymyriadau cynnar arfaethedig
| Yr hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni | Beth fydd yn cael ei wneud? | Sut byddwn yn mesur cynnydd? | Pwy fydd yn cymryd rhan? | Erbyn pryd y bydd hyn yn cael ei gyflawni? |
|---|---|---|---|---|
| Adeiladu ar y cynlluniau lle i nodi a chynnig cyfleoedd i wella mannau byw, gweithio a hamdden mewn trefi ar draws y tri rhanbarth. | Adolygu, diweddaru a datblygu uwchgynlluniau gan nodi gweledigaeth ar gyfer trefi ym mhob ardal o Ceredigion. | Cyhoeddi uwchgynlluniau wedi'u ddiweddaru | Cynghorau Cymuned / Tref. Grwpiau rhanddeiliaid lleol Y gymuned fusnes Trigolion Ceredigion Llywodraeth Cymru a phartneraid strategol ac ariannuerail Partneriaid darparu perthnasol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r tryddyd sector yng Ngheredigion | 2022 |
| Cyflwyno cynlluniau datblygu ar gyfer yr Harbwr yn Aberystwyth a safleoedd strategol eraili, gan gymnwys hen ddepo bysiau Arriva. | Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o ran gwerth buddsoddiadau a swyddia græwyd / mentrau a gychwynnywd | 2023 | ||
| Cyflwyno cynlluniau datblygu ar gyfer Marina yn yr Harbwr yn Aberaeron. | Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o ran gwerth buddsoeddiadau a swyddia græwyd / mentrau a gychwynnywd | 2022 | ||
![]() | Datblygu cynlluniau a gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu Ysgol bywd crefft, gan gefnogi datblygiad y canolbarth (Dyffryn Teifi) fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau bywd. | Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o ran gwerth buddsoeddiadau a swyddia græwyd / mentrau a gychwynnywd | 2022 | |
| Gweithio gyda phartneraid i nodi cyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau sy'n cynnig adloniant i drigolion ac ymwelwyr drwy'r flwyddyn. | Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o ran gwerth buddsoeddiadau a swyddia græwyd / mentrau a gychwynnywd | 2023 ac yn barhaus | ||
| Gweithio gyda phartneraid i nodi ffynonellau cyllid ac i ddenu cefnogaeth i weithgarwich sy'n helpu i ddarparu'r cynlluniau lle. | Tystiolaeth o lefelau buddsoeddad a ddenwyd i Geredigion | Yn barhaus o 2021 | ||
| [F5] | Gweithio gyda phartneraid i dyfu effaith y sector celfyddydau a diwyliant fel ysgogwr economaiidd a darparw gweithgarwich hamdden gwych. | Tystiolaeth o dwf i gyflogaeth, gweithgarwich a gwerth economaiidd | Yn barhaus o 2021 |
Yr hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni Beth fydd yn cael ei wneud? Sut byddwn ni’n mesur cynnydd? Pwy fydd yn cymryd rhan? Erbyn pryd y bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i gynyddu’r ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy Datblygu Strategaeth Tai Fforddiadwy sy'n cwmpasu'r defnydd o gyfleoedd cyllido a gynigir trwy Adolygiad Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru Nifer y cartrefi fforddiadwy a gwblheir; y cyfleoedd cyllido a sicrheir Awdurdod Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Datblygwyr preifat, Unigolion 2023
Sicrhau bod gan Geredigion safleoedd strategol effeithiol ar gyfer cyflogaeth. Gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno cynlluniau ar gyfer: • Canolfan Gwyddoniaeth / Menter (Campws Arloesi Aberystwyth), â phwyslais ar gwmniau allgynhyrchu ym meysydd biowyddoniaeth, amaeth-dechnoleg a sbectrwm radio • Buddsoddiad mewn safleoedd cyflogaeth allweddol gan gynnwys Parc Teifi, Parc Menter Llandysul, Parc Bwyd Horeb, Parc Aberporth, Parc Menter Dyffryn Aeron • Buddsoddiadau harbwr strategol yn Aberystwyth, Aberaeron ac Aberteifi. Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o rang gwrth buddsoddiadau a swyddi a grēwyd / mentrau a gychwynnwyd Tystiolaeth o fuddsoddiadau ac effaith ddilynol ar fentrau a sefydlwyd a swyddi a grēwyd Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o rang gwrth buddsoddiadau a swyddi a grëwyd / mentrau a gychwynnwyd Prifysgol Aberystwyth Prifysgol y Drindod Dewi Sant Llywodraeth Cymru Partneriaid buddsoddi sector preifat 2021 2021 ac yn barhaus
Datblygu a gwella asedau gwyrdd Ceredigion Parhau i ddenu cyllid i fuddsoddi yn y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a'u gwella, i ganiatâu mynediad i fwy o bobl at y rhwydwaith gan well a llesiant cyffredinol. Denu cyllid i fuddsoddi yn seilwaith gwyrdd Ceredigion mewn ardaloedd trefol a gwledig, i wella bioamrywiaeth ac amlygu / cynyddu cyfraniad i liniar u effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith ar hygyrchedd tir a chynnydd i ddefnydd Tystiolaeth o gynlluniau yn cael eu cyflwyno ac effaith o'u cymharu â nodau hinsawdd CS Ceredigion. Llywodraeth Cymru Partneriaid fforwm mynediad lleol Cyfoeth Naturiol Cymru Gweithgarwich parhaus
Tybiaeth well o Geredigion fel lle bywiog i fyw a gweithio ynddo ac i ymwel ag ef. Gwneud Ceredigion yn lle bywiog ar gyfer digwyddiadau
Lansio a gweithredu rhaglen marchnata a chyfathrebu ragweithiol i hyrwyddo Ceredigion fel lle i fyw, gweithio a chwarae (O dan frandiau Caru Ceredigion a Darganfod Ceredigion) Tysiolaeth o ymgyrch ragweithiol ar waith Partneriaid Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lansio yn 2021 ac yn barhaus
Datblygu a gweithredu strategaeth digwyddiadau i ddenu digwyddiadau mawr addas i Geredigion. Nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal 2021 ac yn barhaus
Blaenoriaeth 3: Menter
Rhywle i fentro
Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol
Yn syml, rydym ni eisiau gweld Ceredigion fel lle gywch i gychwyn busnes ac i dyfu busnes.
Byddwn yn gweld busnesau newydd yn cychwyn ar draws amrywiaeth o sectorau, ond yn canolbwyntio'n benodol ar ein cryfderau craidd sef gweithgynhyrchu bwyd, amaethyddiaeth, amaeth-dechnoleg, twristiaeth, gwyddor amgylcheddol, awyrofod, sbectrwm a diwydiannau ymchwil a datblygu seiliedig ar wyddoniaeth eraill. Bydd yr economi sylfaenol hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn twf yng Ngheredigion, gyda chyfleoedd allweddol ym meysydd adeiladu a gofal yn arbennig.
Ein huchelgais yw gweld cynnydd hefyd i gyfran ein busnesau sydd o faint canolig (yn cyflogi dros 50 o bobl).
I gyflawni hyn, bydd angen i ni ddatblygu dull partneriaeth gwirioneddol gan gynnwys y sector cyhoeddus, busnesau, sefydliadau trydydd sector a'r byd academaidd, i sicrhau bod yr amodau ar gyfer datblygu cymuned fusnes sy'n ffynnu ar waith.
"...rydym am weld Ceredigion fel lle gwych i gychwyn busnes ac i dyfu busnes"
Ble ydym ni nawr?
Mae Ceredigion yn gartref i sylfaen gadarn o fusnesau llwyddiannus. Mae'r mwyafrif llethol yn fusnesau bach ac yn ficro-fusnesau.
Er bod cyfraddau goroesi busnesau ymhlith yr uchaf yng Nghymru, nid yw'r gyfradd cychwyn busnesau yn ddigon uchel ar hyn o bryd i ddarparu'r peiriant ar gyfer twf sydde ei angen ar economi Ceredigion. Mae diffyg olyniaeth mewn rhai achosion yn arwain at fusnesau hyfyw sy'n ffynnu yn rhoi'r gorau i fasnachu, gan gyfrannu at gyfraddau marwolaeth busnes uwch.
Ceir arwyddion cadarnhaol – mae gennym nifer o bobl fusnes ifanc uchelgeisiol sydd wedi sefydlu busnesau newydd sy'n ffynnu yn ddiweddar, yn enwedig yn y diwydiant bwyd. Mae buddsoddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn dangos addewid mawr o ran gallu denu busnesau newydd yn seiliedig ar y gallu ymchwil a datblygu gwyddonol.
Mae gennym drydydd sector sy'n ffynnu hefyd gan gynnig y sylfaen i gymunedau o bobl weithredu a rhoi sylw i anghenion penodol, er enghraifft ym meysydd gofal, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth.
A wyddech chi?
Mae 2,810 o fentrau wrthi'n gweithio yng Ngheredigion, gyda'r mwyafrif helaeth yn ficro-fentrau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl. Dim ond 0.5% sy'n faint canolig - sy'n cyflogi rhwng 50 a 249 o bobl - ond rydym am gynyddu'r nifer hwn dros y pymtheng mlynedd nesaf fel bod cyfleoedd newydd am swyddi sy'n talu cyflogau uwch.
Y sectorau cyflogaeth mwyaf yng Ngheredigion yw:
| Addysg | 13.9% |
|---|---|
| Gweithgareddau twristiaeth | 12.9% |
| Masnach cyfanwerthu a manwerthu | 12.9% |
| Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith | 12.3% |
| Gweithgareddau llety a gwasanaethau | 11.3% |
Blaenoriaeth 3: Menter
Rhywle i fentro
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud
Mae'n rhaid mai'r uchelgais yw ein bod yn creu swyddi sy'n ysgogi mwy o ffyniant personol a chyfle sy'n tyfu ein heconomi yn gynaliadwy ac yn mynd i'r afael â'n her cynhyrchiant.
I wneud hynny, bydd yn rhaid i ni weithio mewn partneriaethau cydweithredol cryf i greu'r amodau iawn a chynnig y cymorth iawn i'r cyfleoedd hyn gael eu creu. Dim ond trwy ddull tìm lleol cryf ar draws sefydliadau fel Cyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru, addysg uwch a phellach, y trydydd sector – a'r nifer o ddarparwyr cymorth presennol.
Er y disgwylir i'r prif ysgogiad twf ddd o'r sector preifat, bydd cyfleoedd sylweddol yn y trydydd sector hefyd. Byddwn yn croesawu busnesau a mentrau twf newydd ar draws amrywiaeth o sectorau, gan adeiladu ar gryfderau ein diwydiant a'n hasedau presennol a defnyddio ein pobl fedrus yn effeithiol ond byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar gyfleoedd i gefnogi ein diwydiannau craidd yn yr economi sylfaen (amaethyddiaeth, bwyd, twristiaeth, adeiladu ac ati) gan ddatblygu ac arallgyfeirio. Byddwn hefyd yn ceisio manteisio ar gyfleoedd i greu mwy o swyddi yn yr economi wybodaeth, gan fanteisio ar arbenigedd ein Prifysgolion o ran Ymchwil a Datblygu ynghyd â'r rhwydwaith cyfoethog o arbenigedd proffesiynol a ddarperir gan amrywiaeth eang o sefydliadau cymorth sydd wedi'u lleoli yng Ngheredigion.
Fel Cyngor, byddwn hefyd yn ceisio defnyddio ein hasedau, ein hadnoddau a'n rhwydweithiau i gryfiau'r cynnig a'r cymorth i alluogi twf menter a sicrhau eu bod yn ffynnu yma. O ganlyniad, bydd Ceredigion yn cael ei ystyried fel lle gwych i redeg busnes ynddo. Byddwn yn creu cyfleoedd i bawb sydd eisiau cyfrannu at dwf mentrau newydd a phresennol wneud hynny, gan fanteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sy'n bodoliyng Ngheredigion.
Byddwn yn creu cyfleoedd i bawb sydd eisiau cyfrannu at dwf mentrau newydd a phresennol wneud hynny, gan fanteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sy'n bodoliyng Ngheredigion.
Pwy sydd angen cymryd rhan?
Bydd angen i fusnesau newydd a phresennol fod yn ganolog i'n gwaith i gefnogi ein twf economaidd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat yng Ngheredigion i ddeall eu problemau a'u hanghenion, ac yn gweithio i fynd i'r afael â nhw pan fo'n bosibl, mewn partneriaeth â sefydliadau a sectorau allweddol eraill, gan gynnwys:
- Lilywodraeth Cymru
- Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru
- Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch
- Darparwyr sgiliau a hyfforddiant
- Cyrff cynrychioli busnes
- Ariannwyr preifat a chyhoeddus
- Sefydliadau trydydd sector
Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn Aberystwyth
A wyddech chi?
Mae gan Geredigion un o'r poblogaethau mwyaf yng Nghymru sy'n gweithio gartref – mae tua 17.3% o boblogaeth oedran gweithio'r sir yn weithwyr cartref, sy'n cyfateb i tua 6,200 o bobl. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i fywa gweithio yn y sir.
- Astudiaeth Achos: Mae Ridiculously Rich by Alana yn uno Iwyddiannau Ceredigion ac mae bellach yn enwadnabyddus yn y sector bwyd a diod yma a thu hwnt. Mae gwreiddiau'r busnes yng ngorllewin Cymru ac mae ganddyn nhw bopty pwrpasol yn Aberystwyth i greu'r cynnyrch.
Yn dilyn llwyddiant cynnar Alana yn gwerthu cynnyrch ledled y wlad ac yn ennill cyfres “The Apprentice”, mae ei phortffolio wedi ehangu’n sylweddol ac mae ei hangerdd dros y gwaith mor gryf ag erioed.
Mae gan Ridiculously Rich bellach 50 o partneriāid sy'n mynd â chacennau i ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig ac yn cyflenwi manwerthwyr annibynnol lleol. Mae wedi creu bariau 'Grab & Go' ac mae wedi gosod unedau gwerthu hunan-wasanaeth sy'n dangos brand y cwmni mewn siopau cyfleustra a gorsaoedd petrol. Mae'r busnes yn parhau i esblygu; mae ganddo bresenoldeb cryf ar-lein ac mae modd tanysgrifio'n fisol i'r cynnyrch erbyn hyn. Yn 2020 agorodd Alana ei siop gyntaf, yn Aberystwyth, sy'n edrych allan dros Fae Ceredigion.
Dymuna Alana roi'r cyfle i eraill redeg busnes drwy ddechrau eu masnachfraint Ridiculously Rich eu hunain drwy ei chynllun cacenpreneur a llysgenhadon.
Blaenoriaeth 3: Menter Rhywle i fentro - ymyriadau cynnar arfaethedig
Yr hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni Cynorthwoo cread busnesau newydd a helpu busnesau presennol i dyfu yng Ngheredigion (creu mwy o fusnesau canolig eu maint)
| Beth fydd yn cael ei wneud? | Sut byddwn yn mesur cynnydd? | Pwy fydd yn cymryd rhan? | Erbyn pryd bydd hyn yn cael ei gyflawni? |
|---|---|---|---|
| Nod o sicrhau bod 300 o fusnesau newydd yn agor bob blwyddyn yng Ngheredigion. | Cyfrif blynyddol o fusnesau cofrestredig. | • Llywodraeth Cymru • Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru • Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch • Darparwyr sgiliau a hyfforddiant • Cyrff cynrychioli busnesau • Ariannwyr preifat a chyhoeddus • Sefydliadau trydydd sector | Yn flynyddol o 2021 |
| Teilwra a gwella’r cynnig cymorth busnes a chyllid (gan gynnwys mentora busnes a chyngor a chymorth uniongyrchol) i fusnesau newydd a phresennol, gan weithio gyda’r amrywiaeth briodol o sefydiadau cymorth gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau (e.e. Busnes Cymru a’r Banc Datblygu). | Tystiolaeth o raglenni cymorth busnes wedi’u targedu sydd ar gael yng Ngheredigion | 2021 | |
| Defnyddio asedau a sgiliau’r Cyngor Sir yn greadigol i gynorthwy o gwaith cychwyn a thyfu busnesau (e.e Canolfan Bwyd Cymru, Ffermydd y Cyngor a thir ac adeiladau erail y Cyngor). | Adrodd ar ddefnydd o asedau sy’n eiddo i CS Ceredigion at y diben o hyrywddo busnesau newydd. | 2022 | |
| Ymchwilio i sefydlu Canolfan Fenter yng Ngheredigion mewn partneriaeth ag Addysg Uwch a Llywodraeth Cymru. | Adrodd ar gynnydd o ran datblygu’r fenter | ||
| Sefydlu rhaglen Gwobrau Busnes ar gyer Ceredigion. | Tystiolaeth o raglen wobrau wedi’i efydlu a’i hyrwyddo | 2021 | |
| Lansio a gweithredu rhaglen marchnata a chyfathrebu ragweithiol i hyrwyddo gweithgarwch busnes Ceredigion (O dan frand Caru Ceredigion) | Tystiolaeth o ymgyrch ragweithiol | 2021 |
Cryfhau / Manteisio argyleoedd allweddol i'n sectorau allweddol – Bwyd / Ffermio, Amaeth-Dechnoleg, Twristiaeth, technoleg Awyrofod / Sbectwm, Biowyddoniaeth Parhau i ddatblygu Canolfan Bwyd Cymru a datblygu Parc Bwyd Horeb a gweithiogyda phartneriaid allweddol erail i helpu idyfu'r sector byyd, yn unol â strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu bywd cynaliadwy o ansawdd da. Adrodd ar weithgarwch ac gyrfder cymharol y diwydiant bywyd yng Ngheredigion • Llywodraeth Cymru • Partneriaeth Tyfu • Canolbarth Cymru • Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch • Darparwyr sgiliau a hyfforddiant • Cyrff cynrychioli busnesau • Ariannwyr preifat a chyhoeddus • Sefydliadau trydydd sector 2023
Darparu buddsoddiadau seilwaithtwristiaeth allweddol (e.e. Harbyrau), apharhau i weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant twristiaeth i hyrwyddo cynnigtwristiaeth Ceredigion ar y cyd. Adrodd ar weithgarwch ac effaith oran busnesau a gychwynwyd a swyddi a grewwyd. 2023
Mynd i'r afael â gwendidau strwythurol / methiant marchnad lle maent yn bodoli yn ein Heconomi Sylfaenol (a'r sectorau Adeiladu a Gofal yn benodol) Ymchwilio i sefydliad busnesau hyd braich ac atebion creadigol erail i fynd i'r afael â materion capasiti yn y sectorau adeiladu a gofal. Astudiaeth o ddichonoldeb wedi'i datblygu Mesur cynnydd i'r busnes a enillir gan fusnesau yng Ngheredigion. • Partneriaid Byrddau Gwasaethau Cyhoeddus • Llywodraeth Cymru 2023
Sicrhau bod y seilwaith gan Geredigion (uniongyrchol ac ategol) i gefnogi cyfleoedd twf. Gweithio gyda phartneriaid sector preifat a chyhoeddus i ddarparu'r seilwaith safleoedd ac eiddo sy'n ofynnol i gefnogi twf mewn safleoedd cyflogaeth allweddol ar draws Ceredigion Adrodd ar safleoedd ac eiddo perthnasol sydd ar gael i gefnogi sefydliad a thwif busnesau yng Ngheredigion. • Llywodraeth Cymru • Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru 2021 ac yn barhaus
Datblygu a chynnal dull cydweithredol cryf o sicrhau twf economaid. Sefydlu system rheoli cyfrifon allweddol fel bod gan fusnesau allweddol bywntiau cyswllt perthnasol a nodwyd yng Nghyrong Sir Ceredigion i helpu i fynd i'r afael â'u gofynion Ymchwilio i ddichonoldeb a defynddiolebsefydlu fforynau busnes (sectoral) Rhestr o gyfrifon allweddol ar waith, gyda thystiolaeth o gyfathrebu â'r holl fusnesau allweddol. Ysgrifennu adroddiad ar ymarferoldeb sefydlu fforynau busnes, gan gynnwys tystiolaeith o'r galw gan fusnesau. • Busnesau yng Ngheredigion • Llywodraeth Cymru a sefydliadau cymorth busnes erail 2021 ac yn barhaus
Gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant i gefnogi buddsoddiadau mewn gweithgareddau ymchwil a thechnoleg gymhwysol allweddol. 2022
Parhau i archwilio a datblygu atebion arloesol i gynorthwyo busnesau Ceredigion i ennill mwy o fusnes y sector cyhoeddus a chadwyn gyflenwi arall, contractau yng Ngheredigion. 2022
Blaenoriaeth 4: Cysylltedd Cysylltedig - Cysylltu Ceredigion
Ein Huchelgais ar gyfer y Dyfodol
Cysylltedd Digidol, Trafnidiaeth ac Ynni
Cysylttedd digidol – Yn syml, ein huchelgais yw sicrhau nad yw trigolion a busnesau Ceredigion o dan anfantais oherwydd diffyg cysylttedd digidol. Cydnabyddir yn eang bod cysylttedd digidol yn cael ei ystyried erbyn hyn yn rhan hanfodol o fywyd cartref a busnes, ac mai dyma'r pedwerydd cyfleustod. Nid yw'n ymwneud â dal i fyny felly – ond sicrhau bod gennym yr un mynediad a chyfle â threfi a chymunedau ledled y DU. Mae hynny'n golygu uchelgais i ddarparu gwasanaethau sy'n cyfateb i gyfwerth â ffibr llawn i lefelau ymhell uwchlaw'r cyrhaeddiad presennol o 80%.
Hoffem i fusnesau fanteisio'n llawn ar dechnoleg i gynorthwyo eu twf, gan ddatblygu dulliau newydd gyda chysylltedd trwy dechnoleg newydd, fel 'Y Rhyngrwyd Pethau', i sicrau bod busnesau yng Ngheredigion ar flaen y gad o ran datblygiadau ac yn ysgogi twf economaidd gwledig, yn hytrach na disgwyl i ddal i fyny. Byddwn yn gweithio gyda rhaglenni cenedlaethol ac yn datblygu ein datrysiadau ein hunain i helpu busnesau i wneud y defnydd gorau o gysylltedd / technolegau newydd.
Cysylltedd trafnidiaeth – I ysgogi twf economaidd a denu busnes newydd, mae angen i ni wella cysylltedd i Geredigion ac oddi mewn iddi. Byddwn yn adeiladu ar ein cysylltiadau presennol i ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth sydd ei angen i helpu i dyfu'r economi a chynyddu cynhyrchiant.
Mae rhwydweithiau trafnidiaeth dibynadwy, cydnerth, cynaliadwy a chysylltiedig yn hanfodol bwysig i dwf economaidd a chymunedau yng Ngheredigion. Bydd gwell cysylltedd trafnidiaeth yn chwarae rhan hollbwysig i gynorthwyo llifoedd economaidd, i wella hygyrchedd, i ddenu buddsoddiad ac i alluogi datblygiad. Cysylltedd Ynni – Mae cysylltedd fforddiadwy i rwydwaith ynni wedi'i ddatgarboneiddio yn rhan hanfodol o'n twf economaidd yn y dyfodol. Ynni yw popeth, hebddo ni allwn wresogi ein cartrefi, symud o gwmpas, na gweithio. Mae agenda ddatgarboneiddio'r DU yn golygu bod yn rhaid i ynni dddod o ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol. Mae'r sir a'r rhanbarth mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddiwallu'r angen hwn, ond mae seilwaith grid gwael ar hyn o bryd yn atal hyn.
Cysylltedd Ynni – Mae cysylltedd fforddiadwy i rwydwaith ynni wedi'i ddatgarboneiddio yn rhan hanfodol o'n twfeconomaidd yn y dyfodol. Ynni yw popeth, hebddo ni allwn wresogi ein cartrefi, symud o gwmpas, na gweithio. Mae agenda ddatgarboneiddio'r DU yn golygu bod yn rhaid i ynni dddod o ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol. Mae'r sir a'r rhanbarth mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddiwallu'r angen hwn, ond mae seilwaith grid gwael ar hyn o bryd yn atal hyn.
Ble ydym ni nawr?
Mae cysylltedd trafnidiaeth, digidol ac ynni yn dair her allweddol.
Mae cysylltedd digidol gwael o ran band eang gwael a signal symudol anghyson ac annibynadwy yn parhau i ymyleiddio cymunedau gwledig, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd; gan achosi rhwystredigaeth; rhwystro busnesau gwledig ac atal pobl rhag ymgysylltu â gwasanaethau ar-lein. Mae'n rhaid i nigydnabod bod angen gwell cysylltedd arnom er mwyn denu busnesau newydd neu arafu lleihad ein poblogaeth.
Mae maint a natur anghysbell a gwasgaredig aneddiadau yng Ngheredigion yn achosi heriau o ran cludo nwyddau a phobl. Mae'r rhwydwaith o Gefnffyrdd a ffyrdd Sirol a'r coridorau rheilffordd yn y rhanbarth yn cwmpasu ardal eang wedi eu cyfyngu gan ddaearyddiaeth y sir. Mae'r ffyrdd yn rhai unffrwd gan achosi dibynadwyedd amser teethiau a gwydnwch y rhwydwaith, amseroedd teethiau hira dibynadwyedd gwael.
Er bod Ceredigion yn allforiwr trydan net ar hyn o bryd, mae seilwaith grid gwael yn gwneud cysylltiadau ynni sylweddol newydd yn afresymol o ddrud, sy'n gyfyngiad posibl.
Astudiaeth Achos: Cynllun Peilot Digidol Llwybrydd 4G
Mae'r angen am gysylltedd digidol da wedi bod yn hanfodol yn ystod pandemig Covid. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod cysylltedd gwael yn achosi problemau sylweddol i'r rheini yng Ngheredigion a fu'n ymateb i'r achos ac yn gweithio o adref. O ganlyniad, sefydlwyd peilot yn archwilio'r defnydd o dechnoleg amgen i wella cyflymderau band eang drwy geblau sefydlog.
Treialwyd llwybryddion 4G mewn lleoliadau o amgylch Ceredigion. Mewn ardaloedd lle gellid derbyn signal 4G, roedd yn caniatáu i bobl barhau â'u dyletswyddau a chynnal cysylltiad â chwsmeriaid, cyflenwyr ac aelodau o'r gymuned. "Rwyf wedi gweld gwelliant enfawr. Gallaf nawr dderbyn tua 25mbps o'i gymharu â'r uchafswm o 3mbps cyn hynny. Mae mynediad at gyflymder band eang uwch wedi cael effaith fawr ar fy ngallu i weithio gartref. ” (Endaf Griffiths, Wavehill)
Gorsaf Bwer Rheidol yw'r prosiect ynni dwr mwyaf yng Nghymru yn cynhyrchu 85 GWh o drydan sy'n ddigon i bweru 20,000 o gartrefi
Blaenoriaeth 4: Cysylltedd Cysylltedig - Cysylltu Ceredigion
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
- Mae cydnerthedd y rhwydwaith trafnidiaeth yn hanfodol bwysig i’r economi. Mae angen buddsoddiad i fynd i’r afael â phroblemau trafnidiaeth sylfaenol sy’n cyfyngu symudiado gwmpas y Sir ac ar draws ein ffiniau i siroedd eraill. Mae Strategaeth Cludo Nwyddau Gororau a Chanolbarth Cymru, er enghraifft, yn tynnu sylw at nifer o broblemau i fusnesau a fydd angen cyfuniad o ymyraethau sy’n cefnogi ac yn gwella’r rhwydwaith, gan wneud rhanbarth y Canolbarth yn fwy cysylltiedig. Mae hyrwyddo moddau teithio cynaliadwy a datgarboneiddio trafnidiaeth hefyd yn uchelgeisiau sylweddol i Geredigion i sicrhau ein bod yn gallu mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd.
Ein nod yw system drafnidiaeth integredig a fforddiadwy sy'n hwyluso twf economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb at wasanaethau a chyfleoedd, yn cynnal ac yn gwella ansawdd cymunedau, ac yn cefnogi'r newid i ddyfodol carbon isel.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau nad yw dyhead Ceredigion am dwf economaidd yn cael ei ddal yn ôl gan gyfylngiadau yn y cyflenwad ynni. Byddwn yn ymchwilio i'r posibiliadau o ddefnyddio ffynonellau trydan adnewyddadwy, o fewn rhwydwaith dosbarthul lleol i hybu twf economaidd yn y dyfodol.
Ni fydd cyfryngiadau mewn cysylltedd digidol ychwaith yn cael arafu'r potensial ar gyfer twf economaidd yng Ngheredigion. Mae cysylltiad band eang cyflym eisoes yn bosibl yn eang yng Ngheredigion ond byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan bob cymuned a busnes yng Ngheredigion fynediad at y cyflymderau cysylltu angenrheidiol i alluogi pobli fyw, gweithio a thyfu busnesau yng Ngheredigion.
Pwy sydd angen cymryd rhan?
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar bob lefel o lywodraeth, yn dibynnu ar natur ddatganoledig y polisi, i sicrhau bod yr angen am fuddsoddiad, a'i effaith, yn cael eu mynegi'n glir.
Byddn yn gweithio gyda chymunedau ledled Ceredigion i nodi a hwyluso cyfleoedd ar gyfer camau gweithredu o dan arweiniad y gymuned, a hynny ym meysydd ynni a chysylltedd digidol.
Byddn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat a'r trydydd sector a all gyflwyno datrysiadau a helpu i gyflawni ein hamcanion yn y maes hwn. A wyddech chi? Trigolion Ceredigion sy'n drydydd yng Nghymru o ran eu pellteroedd cymudo i'r gwaith - y pellter cyfartalog a deithir i'r gwaith yw 21.3km, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 16.7km
Blaenoriaeth 4: Cysylltedd Cysylltedig - Cysylltu Ceredigion – ymyriadau cynnar arfaethedig
| Yr hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni | Beth fydd yn cael ei wneud? | Sut byddwn yn mesur cynnydd? | Pwy fydd yn cymryd rhan? | Erbyn pryd bydd hyn yn cael ei gyflawni? |
|---|---|---|---|---|
Gwelliant i'r rhwydwaith ffyrdd![]() | Ceisio cymorth a chyllid ar gyfer buddsoddiad i:• Wella cysyltedd y sir gan roi sylw i lwybrau strategol trawsffiniol.• Mesurau gwella i'r rhwydwaith Cefnffyrdd a ffyrdd Sirol gan gynnwys rhaglen mannau cyfyrnd a chysylltiadau â marchnadoedd allweddol o A44 Aberystwyth i Langurig.o Coridor Arfordirol Strategol Gorllewin Cymru yn cysylltu Gogledd a De-orllewin Cymru.• Sicrhau cydnerthedd y rhwydwaith Ffyrdd Sirol i gefnogi'r rhwydwaith strategol | Strategaethau a rhaglenni newydd ar gyfer gwella ffyrdd yn lleol ac yn rhanbarthol. | Llywodraeth Cymru Awdurdodau Cyfagos | Parhaus o 2021 |
Gwelliannau i'r ddarpariaeth Cludiant Cyhoeddus yng Ngheredigion![]() | Ceisio cymorth a chyllid buddsoddi i:Wella coridorau rheilffordd strategol:-• Gwelliannau i gyflymder y llinell ar Reilffordd Cambria; annog cludo nwyddau ysgafn ar wasanaethau teithwyr ar Brif Reilffordd Cambria; a datblygu canolfan drafnidiaeth strategol Aberystwyth• Ymyraethau cysylltedd gwasanaethau fel gwasanaeth bob awr llawn ar Reilffordd Cambria i Birmingham International a | Tystiolaeth bod strategaethau a darpariaeth ar waith | Llywodraeth Cymru a phartneriaid trafnidiaeth | Parhaus o 2021 |
chysyltedd â HS2; ail-gyflwyno gwasanaeth uniongyrchol i Lundain • Datblygu llwybr strategol TrawsCymru a chanolfannau / cyfnewidfeydd bysiau pellter hir strategol â thrafnidiaeth ymatebol integredig. • Cefnogi datblygiad Bwcabus • Diogelu corridor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin • Sicrhau bod y ddarpariaeth yn cefnogi'r gofynion/mentrau twristiaeth Tystiolaeeth o rwydwaith gwybodaeth sy'n tyfu a phobl yn manteisio ar wasanaethau Llywodraeth Cymru Parhaus o 2021
Pecynnau cymorth teithio llesol i annog cerdded a beicio, a datblygu seilwaith. Dosbarthu gwybodaeth gan ddefnyddio rhwydweithiau gwybodaeth digidol ac addysg i geisio sicrhau newid mewn ymddgyiad Cynllun datgarboneiddio ar waith Pob partner trafnidiaeth 2021
Datblygu dull strategol o ddarparu seilwaith gwefru cerbydau trydan, gwaith dichonoldeb ar botensial hydrogen a dewis trefi allweddol i dreialu cynllun datgarboneiddio. Ymchwilio i ddichonoldeb a chynllun cysylltiedig wedi'i sefydlu Pob partner trafnidiaeth 2022
Cyflwyno mesurau cysylltedd Gwledig fel prifyrdd clyfar, canolfannau ffordd a rheilffordd a thocynnau integredig a thrafnidiaeth ymatebol integredig. Capasiti grid ar gael yn y sir ar gyfer cyflenwi / defnyddio ynni adnewyddadwy Gwasanaeth ynni LIC Gweithredwyr Rhwydwaith Ardal a'r Grid Cenedlaethol. Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) / Ofgem 2022
Ymchwilio i bryniant cyhoeddus capasiti Grid sylweddol i'w werthu ymlaen i ddatblygiadau unigol (cynhyrchu a defnyddio)
[F3][F2] Ymgyrch gyhoeddusrwydd i gyfleu’r angen am rwydwaith ynni datgarboneiddio a manteision lleol hynny Llwyddiant ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau yn ymwneud â gosodiadau ynni adnewyddadwy Datblygwyr Llywodraeth Cymru 2025
Ymchwilio i droi cynhyrchiad trydan adnewyddadwy yn nwy hydrogen, gan leihau’r angen am fuddsoddiad mewn Cysylltedd Grid. Eglurder ynghylch dichonoldeb H2yn y sir a’r rhanbarth. Datblygwyr Cyngor Sir Powys 2021
Yr hyn yr ydym ni eisiau ei Beth fydd yn cael ei wneud? Sut byddwn yn mesur gyflawni cynnydd?
Beth fydd yn cael ei wneud?
| Datblygu dull strategol oymdrin â'r Digidol | ![]() | Datblygu Strategaeth Ddigidol i Geredigion | Llunio'r strategaeth | 2020 | |
|---|---|---|---|---|---|
| Gwella cysyltedd yng Ngheredigion | ![]() | Mesurau i ymestyn cwmpas Band Eang Cyflym lawn a Gwibgyswllt yn y rhanbarth gan ganolbwyntio ar ffibr i'r eiddo. Rhaglen o fesurau i ymestyn cwmpas 4G dibynadwy da ar draws y rhanbarth. Dylanwadu a lobio ar gyfer newidiadau polisi: • Cael gwared ar gapiau archebion ar gyfer cynhyrchion ffibr ar alw • Sicrhau cyflymder rhwydwaith ffôn symudol gofynnol o 10mbe ar sail cryfder signal 50% yn ystod cyfnodau brig.Galluogi seilwaith Gigabit, gan ganolbwyntio ar feysydd sydd â blaenoriaeth a lle mae cyfleoedd ar gyfer twf economaidd. Hyrwyddo a defnyddio cyllid y Llywodraeth a thynnu sylw at gyfleoedd masnachol i ddarparwyr rhwydwaith erail. | Data treiddiad/cwmpas band eang | Llywodraethau Cymru a'r DU; Darparwyr, Cymruedau | Hyd at 2025 |
| Gwella lefelau manteisio digidol yng Ngheredigion | Gweithio gyda darparwyr cymorth i ychwanegu gwerth ac ehangu cyrhaeddiad a chwmpas eu cymorth.Gyrru gweithrediad cysyltedd digidol o fewn busnesau trwy gynyddu cyfranogiad / sgiliau a'r defnydd o dechnoleg sy'n datblygu trwy gefnogi / defnyddio rhaglenni cenedlaethol. | Data ar y nifer sy'n manteisio a gwybodaeth am ddarparwyr | Llywodraeth Cymru, Cymruedau Digidol Cymru, Cyswllt Ffermio ac ati | Parhaus |
Pwy fydd yn cymryd rhan? Erbyn pryd bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Erbyn pryd bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Sut byddwn ni'n darparu ac yn cyfrannu adnoddau at Strategaeth Economiaidd Ceredigion?
Pobl a Phartneriaethau
Bydd darparu’r strategaeth yn gofyn am weithredu â phwyslais gan Gyngor Sir Ceredigion ar draws nifer o feysydd gwasanaeth, yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r tryddyd sector yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
Bydd Llywodraethau Cymru a'r DU yn bartneriaid allweddol, ac felly hefyd Awdurdodau Lleol eraill lle mae'r camau a nodwyd yn cyfrannu at dwf economaidd rhanbarthol.
Mae'r tìm Twf a Menter yang Nghyngor Sir Ceredigion wedi'i strwythuro a'i ddarparu gydag adnoddau i gyflawni tair swyddogaeth strategol sy'n ganolog i ddarparu'r strategaeth:
- Tìm twf a datblygu mawr - mae un tim yn canolbwyntio ar greu partneriaethau strategol i ddenu buddsoddiadau allweddol a chyflwyno'r blociau adeiladu ar gyfer darparu.
- Datblygu a rheoli asedau – bydd y swyddogaeth hon yn y tilm yn sicrhau bod yr asedau ffisegol yr ydym yn berchen arnynt ac yn eu rheoli (gan gynnwys ein hasedau gwyrdd yng Ngheredigion) yn cael eu datblygu a'u rheoli i ddarparu'r canlyniadau strategol a nodir yn y strategaeth fframwaith hon yn effeithiol.
- Rheoli a darparu prosiectau. Tîm ymroddedig i reoli a darparu prosiectau, gan weithio gyda phartneriaid lluosog yn y gymuned, yn y sector preifat, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ac yn gyson ag anghenion ariannwyr.
- Bydd pedwerydd tìm yn canolbwyntio ar reoli a datblygu Canolfan Bwyd Cymru er budd economi bwyd Cymru, gan arwain at fanteision eglur i economi Ceredigion hefyd.
Rydym wedi nodi yn y ddogfen hon rai o'r camau y byddwn yn ceisio eu cyflawni yn y cyfnod cyntaf, yn amodol ar gyllid a gwneud rhagor o waith cynllunio. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o'r camau sydd eu hangen i helpu i dyfu'r economi. Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r uchelgais, mewn rhai achosion, byddwn yn cyflwyno strategaethau a chynlluniau gweithredu manylach, er enghraifft, y Strategaeth Asedau, y Strategaeth ar gyfer Defnyddio Mannau Agored a'r Cynllun Gweithredu Digidol.
Cychod pysgota wrth eu gwaith ym marina Aberystwyth
Bydd prosiectau'n cael eu dwyn ymlaen mewn ymgynghoriad â phartneriaid allanol a mewnol i gyflawni'r gwasanaethau a phrosiectau mwyaf cost-effeithiol aceffeithlon.
Mesur Cynnydd
Bydd cynnydd yn cael ei fesur trwy fonitro dangosyddion perfformiad gan ddefnyddio:
- Monitro ac adolyu llwyddiant y strategaeth yn fewnol yn erbyn dangosyddion perfformiad blynyddol ac effaith hirdymor ar y data economaidd ar gyfer Ceredigion.
- Ymgysylltiad allanol parhaus.
Adolyu'r Strategaeth
Byddn yn adolygu’r Strategaeth yn barhaus ac yn ei diweddaru gydag ymyraethau newydd wrth i ni eu nodi, a bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael o’n gwefan.
Swallow Yachts yn Aberteifi
Dogfennau ategol
Datblygwyd Strategaeth Economiaidd Ceredigion gan ddefnyddio'r dogfennau ategol canlynol:
- "Adroddiad Llinell Sylfaen Economiaidd" (Chwefror 2020)
- “Adroddiad Adborth Ymgynghoriad ar Strategaeth Economiaidd newydd” (Chwefror 2020)
- Adroddiad Diweddariad yr Effaith Economiaidd (Hydref 2020)
- Ymatebion i'r Ymgynghoriad (Chwefror 2021)
Mae copiau o'r dogfennuu hyn ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion
Yn yr un modd, os hoffech Fersiwn Testun Plaen neu Fersiwn Hawdd ei Darllen o'r ddogfen hon, cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion:
01545 570881
Cyngor Sir Ceredigion Canolfan Rheidol Rhodfa Padarn Llanbadarn Fawr Aberystwyth Ceredigion SY23 3UE
www.ceredigion.gov.uk
Credydau Lluniau:
Tudalen 4 Diagram "Cylch o ddirywiad" - Rhwydwaith Europeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig
Tudalen 6 Delwedd gan Ridiculously Rich gan Alana
Tudalen 13 Ffotograffiaeth Janet Baxter
Delweddau pysgota tudalennau 1, 2, 6, 9, 25 a 26 Lluniau gan Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion
Mae gweddill y delweddau wedi eu darparu gan Gyngor Sir Ceredigion.
Cyngor Sir CEREDIGION County Council
Lluniau o'r brig: harbwr Ceinewydd, Ilwybr beicio Ystwyth, traeth a harbwr Ceinewydd




