Blaenoriaeth 3: Menter

Rhywle i fentro

Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol

Yn syml, rydym ni eisiau gweld Ceredigion fel lle gywch i gychwyn busnes ac i dyfu busnes.

Byddwn yn gweld busnesau newydd yn cychwyn ar draws amrywiaeth o sectorau, ond yn canolbwyntio'n benodol ar ein cryfderau craidd sef gweithgynhyrchu bwyd, amaethyddiaeth, amaeth-dechnoleg, twristiaeth, gwyddor amgylcheddol, awyrofod, sbectrwm a diwydiannau ymchwil a datblygu seiliedig ar wyddoniaeth eraill. Bydd yr economi sylfaenol hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn twf yng Ngheredigion, gyda chyfleoedd allweddol ym meysydd adeiladu a gofal yn arbennig.

Ein huchelgais yw gweld cynnydd hefyd i gyfran ein busnesau sydd o faint canolig (yn cyflogi dros 50 o bobl).

I gyflawni hyn, bydd angen i ni ddatblygu dull partneriaeth gwirioneddol gan gynnwys y sector cyhoeddus, busnesau, sefydliadau trydydd sector a'r byd academaidd, i sicrhau bod yr amodau ar gyfer datblygu cymuned fusnes sy'n ffynnu ar waith.

"...rydym am weld Ceredigion fel lle gwych i gychwyn busnes ac i dyfu busnes"

Ble ydym ni nawr?

Mae Ceredigion yn gartref i sylfaen gadarn o fusnesau llwyddiannus. Mae'r mwyafrif llethol yn fusnesau bach ac yn ficro-fusnesau.

Er bod cyfraddau goroesi busnesau ymhlith yr uchaf yng Nghymru, nid yw'r gyfradd cychwyn busnesau yn ddigon uchel ar hyn o bryd i ddarparu'r peiriant ar gyfer twf sydde ei angen ar economi Ceredigion. Mae diffyg olyniaeth mewn rhai achosion yn arwain at fusnesau hyfyw sy'n ffynnu yn rhoi'r gorau i fasnachu, gan gyfrannu at gyfraddau marwolaeth busnes uwch.

Ceir arwyddion cadarnhaol – mae gennym nifer o bobl fusnes ifanc uchelgeisiol sydd wedi sefydlu busnesau newydd sy'n ffynnu yn ddiweddar, yn enwedig yn y diwydiant bwyd. Mae buddsoddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn dangos addewid mawr o ran gallu denu busnesau newydd yn seiliedig ar y gallu ymchwil a datblygu gwyddonol.

Mae gennym drydydd sector sy'n ffynnu hefyd gan gynnig y sylfaen i gymunedau o bobl weithredu a rhoi sylw i anghenion penodol, er enghraifft ym meysydd gofal, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth.

A wyddech chi?

Mae 2,810 o fentrau wrthi'n gweithio yng Ngheredigion, gyda'r mwyafrif helaeth yn ficro-fentrau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl. Dim ond 0.5% sy'n faint canolig - sy'n cyflogi rhwng 50 a 249 o bobl - ond rydym am gynyddu'r nifer hwn dros y pymtheng mlynedd nesaf fel bod cyfleoedd newydd am swyddi sy'n talu cyflogau uwch.

Y sectorau cyflogaeth mwyaf yng Ngheredigion yw:

Addysg13.9%
Gweithgareddau twristiaeth12.9%
Masnach cyfanwerthu a manwerthu12.9%
Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith12.3%
Gweithgareddau llety a gwasanaethau11.3%