Ein nod yw system drafnidiaeth integredig a fforddiadwy sy'n hwyluso twf economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb at wasanaethau a chyfleoedd, yn cynnal ac yn gwella ansawdd cymunedau, ac yn cefnogi'r newid i ddyfodol carbon isel.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau nad yw dyhead Ceredigion am dwf economaidd yn cael ei ddal yn ôl gan gyfylngiadau yn y cyflenwad ynni. Byddwn yn ymchwilio i'r posibiliadau o ddefnyddio ffynonellau trydan adnewyddadwy, o fewn rhwydwaith dosbarthul lleol i hybu twf economaidd yn y dyfodol.
Ni fydd cyfryngiadau mewn cysylltedd digidol ychwaith yn cael arafu'r potensial ar gyfer twf economaidd yng Ngheredigion. Mae cysylltiad band eang cyflym eisoes yn bosibl yn eang yng Ngheredigion ond byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan bob cymuned a busnes yng Ngheredigion fynediad at y cyflymderau cysylltu angenrheidiol i alluogi pobli fyw, gweithio a thyfu busnesau yng Ngheredigion.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar bob lefel o lywodraeth, yn dibynnu ar natur ddatganoledig y polisi, i sicrhau bod yr angen am fuddsoddiad, a'i effaith, yn cael eu mynegi'n glir.
Byddn yn gweithio gyda chymunedau ledled Ceredigion i nodi a hwyluso cyfleoedd ar gyfer camau gweithredu o dan arweiniad y gymuned, a hynny ym meysydd ynni a chysylltedd digidol.
Byddn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat a'r trydydd sector a all gyflwyno datrysiadau a helpu i gyflawni ein hamcanion yn y maes hwn. A wyddech chi? Trigolion Ceredigion sy'n drydydd yng Nghymru o ran eu pellteroedd cymudo i'r gwaith - y pellter cyfartalog a deithir i'r gwaith yw 21.3km, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 16.7km