Sut byddwn ni'n darparu ac yn cyfrannu adnoddau at Strategaeth Economiaidd Ceredigion?

Pobl a Phartneriaethau

Bydd darparu’r strategaeth yn gofyn am weithredu â phwyslais gan Gyngor Sir Ceredigion ar draws nifer o feysydd gwasanaeth, yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r tryddyd sector yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.

Bydd Llywodraethau Cymru a'r DU yn bartneriaid allweddol, ac felly hefyd Awdurdodau Lleol eraill lle mae'r camau a nodwyd yn cyfrannu at dwf economaidd rhanbarthol.

Mae'r tìm Twf a Menter yang Nghyngor Sir Ceredigion wedi'i strwythuro a'i ddarparu gydag adnoddau i gyflawni tair swyddogaeth strategol sy'n ganolog i ddarparu'r strategaeth:

  • Tìm twf a datblygu mawr - mae un tim yn canolbwyntio ar greu partneriaethau strategol i ddenu buddsoddiadau allweddol a chyflwyno'r blociau adeiladu ar gyfer darparu.
  • Datblygu a rheoli asedau – bydd y swyddogaeth hon yn y tilm yn sicrhau bod yr asedau ffisegol yr ydym yn berchen arnynt ac yn eu rheoli (gan gynnwys ein hasedau gwyrdd yng Ngheredigion) yn cael eu datblygu a'u rheoli i ddarparu'r canlyniadau strategol a nodir yn y strategaeth fframwaith hon yn effeithiol.
  • Rheoli a darparu prosiectau. Tîm ymroddedig i reoli a darparu prosiectau, gan weithio gyda phartneriaid lluosog yn y gymuned, yn y sector preifat, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ac yn gyson ag anghenion ariannwyr.
  • Bydd pedwerydd tìm yn canolbwyntio ar reoli a datblygu Canolfan Bwyd Cymru er budd economi bwyd Cymru, gan arwain at fanteision eglur i economi Ceredigion hefyd.

Rydym wedi nodi yn y ddogfen hon rai o'r camau y byddwn yn ceisio eu cyflawni yn y cyfnod cyntaf, yn amodol ar gyllid a gwneud rhagor o waith cynllunio. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o'r camau sydd eu hangen i helpu i dyfu'r economi. Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r uchelgais, mewn rhai achosion, byddwn yn cyflwyno strategaethau a chynlluniau gweithredu manylach, er enghraifft, y Strategaeth Asedau, y Strategaeth ar gyfer Defnyddio Mannau Agored a'r Cynllun Gweithredu Digidol.

Cychod pysgota wrth eu gwaith ym marina Aberystwyth

Bydd prosiectau'n cael eu dwyn ymlaen mewn ymgynghoriad â phartneriaid allanol a mewnol i gyflawni'r gwasanaethau a phrosiectau mwyaf cost-effeithiol aceffeithlon.

Mesur Cynnydd

Bydd cynnydd yn cael ei fesur trwy fonitro dangosyddion perfformiad gan ddefnyddio:

  • Monitro ac adolyu llwyddiant y strategaeth yn fewnol yn erbyn dangosyddion perfformiad blynyddol ac effaith hirdymor ar y data economaidd ar gyfer Ceredigion.
  • Ymgysylltiad allanol parhaus.

Adolyu'r Strategaeth

Byddn yn adolygu’r Strategaeth yn barhaus ac yn ei diweddaru gydag ymyraethau newydd wrth i ni eu nodi, a bydd y fersiwn ddiweddaraf ar gael o’n gwefan.

Swallow Yachts yn Aberteifi