Mae'n amser cyffrous i economi Ceredigion, sydd wedi ei lleoli mewn un o'r ardaloedd mwyaf hardd ac unigryw yn y DU gyfan wrth i ni bennu ein nodau economaidd ar gyfer y cyfnod hyd at 2035.
Er mwyn cyflwyno ein strategaeth a'n hymyraethau hyd at 2035, mae'n bwysig i ni ddeall y sefyllfa yr ydym yn cychwyn ohoni.
Cynhaliwyd adolygiad llinell sylfaen o dystiolaeth gennym yn ystod hydref 2019 i nodi sefyllfa'r economi yn genedlaethol ac i nodi'r heriau allweddol i dyfu'r economi leol.
Ategwyd hwn gan ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod gaeaf 2019/2020 i geisio safbwyntiau busnesau, pobl ifanca'r cyhoedd ar y materion sy'n effeithio arnynt. Rydymhefyd wedi cynnal asesiad pellach eleni o effaith Covid-19 ar ein llinell sylfaen economaidd ac yn ystod Rhagfyr 2020 ac lonawr 2021, gwnaethom gynnal ymgynghoriad pellach ar y strategaeth ddrafft a defnyddiwyd y canlyniadau i lunio'r strategaeth hon a'n helpu ni i baratoi i'w rhoi ar waith.
Ond rydym hefyd yn gwybod bod rhai heriau allweddol yn ein hwynegu ar ffurf denu busnesau newydd, creu mwy o gyfleoedd gwaith, cynnig cyfleoedd i bobl iau aros yn y sir a gwrthdroi'r duedd o enillion is o'u cymharu â gweddill Cymru. Mae demograffeg Ceredigion hefyd yn newid - mae poblogaeth gyffredinol y sir, ac yn enwedig y bobłogaeth oedran gweithio, wedi bod yn gostwng dros y chwe blynedd diwethaf. Pe na baem yn ceisio dylanwadu ar y canlyniad hwnnw, gallai'r sefyllfa hon ddwysáu oherwydd Covid-19 a Brexit.
Ceir rhai camdybiaethau y mae angen i ni eu herio hefyd – bod Ceredigion wedi ei gysylltu, mae'r dechnoleg Band Eang Ffibr Llawn sydd ar gael yng Ngheredigion yn uwch nag yng Nghymru gyfan. Ond ar yr un pryd mae angen rhagor o fuddsoddiad i godi cyfran gyffredinol yr adeiladau nad ydynt yn gallu derbyn band eang 2, 5, 10 a 30Mbit/e sy'n dal i fod yn uwch na gweddill rhanbarth y canolbarth a'r de-orllewin.
A heb anghofio, wrth gwrs, iechyd a llesiant cymunedau Ceredigion – mae'r amgylchedd naturiol hardd, cymunedau diogel a chyfleoedd eang ar gyfer hamdden yn cynnig amgylchedd o ansawdd uchel i fyw a gweithio ynddo.
Yn erbyn y cefndir hwn yr ydym wedi datblygu'r strategaeth hon i adeiladu ar ein cryfderau fel sir, i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni a mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu i dyfu'r economi leol dros y pymtheg mlynedd nesaf hyd at 2035.
£17,461 oedd y Gwerth Ychwanegol Gros fesul pen o'r boblogaeth yng Ngheredigion yn 2017, o'i gymharu â'r ffigur cenedlaethol o £19,899 y pen
DIBYNIAETH AR FICRO-FUSNESAU/BUSNESAU BACH Mae'r mwyafrif o fusnesau (99%) naill ai o faint micro (0-9 o weithwyr) neu'n fentrau bach (10-49 o weithwyr). Dim ond 0.5% sy'n fentrau canolig eu maint (50-249 o weithwyr)
£24,126 yw’r enillion blynyddol cyfartalog i’r rhai sy’n byw yng Ngheredigion, dros £2,000 yn liai na’r £26,267 ledled Cymru.
Er bod band eang a chysylltedd symudol yn gwella yn y sir, ceir 20% o adeiladau o hyd nad ydynt yn gallu derbyn cyflymder 30Mbit/e.
Mae 97.2% o fusnesau yn goroesi eu blwyddyn gyntaf a 52.8% yn goroesi eu pum mlynedd cyntaf, a dyma'r ffigyrau gorau yng Nghymru.
Mae gan 78.7% o'r boblogaeth gymwysterau lefel NVQ, sy'n llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 74.0%.
Er bod prisiau ynni yn uwch yng Ngheredigion, mae gan y sir y ganran uchaf o ran defnydd o drydan sy'n cael ei fodloni trwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy.