Blaenoriaeth 1: Pobl

Byw, gweithio a thyfu yng Ngheredigion

Yr hyn y mae angen i ni ei wneud

Mae gennym ni system addysg ragorol sy'n sicrhau canlyniadau rhagorol i ddysgwyr. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr addysg yng Ngheredigion i greu cysylltiadau mwy cadarn gyda chyflogwyr, fel bod gwasanaethau addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd yn bendant ag anghenion y cyflogwyr hynny.

I fynd i'r afael å'r dybiaeth o ddiffyg cyfleoedd yng Ngheredigion, byddwn yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o lwybrau gyrfaol llawn boddhad sydd ar gael yng Ngheredigion, gyda chefnogaeth hyfforddiant priodol i bobl o bob oed.

Byddwn yn archwilio ffyrdd, gan weithio gyda’n partneriaid, i sicrhau bod ein mentrau yn gwybod y gallant gael mynediad at gronfa o bobl sydd â’r sgiliau priodol i alluogi twf. Bydd pobl ifanc sy’n byw ac yn astudio yng Ngheredigion yn ymwybodol o ehangder a chwmpas y cyfleoedd hynny, ac yn gwybod sut i fanteisio arnynt.

Byddn hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid i helpu i wireddu potensial pawb sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion. Bydd pobl â sgiliau a phrofiad a enillwyd mewn mannau erail yn gweld Ceredigion fel man lle gellir rhoi'r sgiliau hynny at ddefnydd da. Bydd Ceredigion yn cael ei hystyried fel lle gwych i gychwyn a thyfu busnes, gydar hwydwaith ffurfiol ac anffurfiol o gymorth sy'n helpu pobl a mentrau i lwyddo.

Byddn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed trwy Arfor a mentrau eraili sydd â'r nod o ddeall sut y gallwn ddatblygu'r economi mewn ffordd sy'n helpu i roi hwb i nifer y siaradwyr Diben hyn fydd cadw pobl ifanc (a anwyd yma neu sydd wedi symud i astudio yma) yng Ngheredigion, gan ddenu erail yn ôl i'r sir, a chynnig y cyfle i eraili ddysgu a bod yn hyderus wrth ddefnyddio'r iath.

Diben hyn fydd cadw pobl ifanc (a anwyd yma neu sydd wedi symud i astudio yma) yng Ngheredigion, gan ddenu eraill yn ôl i'r sir, a chynnig y cyfle i eraill ddysqu a bod yn hyderus wrth ddefnyddio'r iath.

Pwy sydd angen cymryd rhan?

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o bobl a sefydliadau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd Gwasanaeth Addysg Ceredigion a sefydliadau Addysg Uwch yng Ngheredigion yn partneriaid craidd o ran cyflawni ein huchelgeisiau.

Bydd gwasanaethau erail yng Nghytngor Sir Ceredigion yn chwarae rhan hefyd, gan gynnwys Gwasanaeth Pobla Threfniadaeth y Cyngor a Cered.

Bydd Llywodraeth Cymru, ei hadrannau perthnasol a chyrff a ariennir ganddi yn partneriaid allweddol.

Bydd darparwyr addysg a hyfforddiant sector preifat a thrydydd sector yn bartneriaid allweddol hefyd, yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus perthnasol erail a ariennir, fel Gyrfa Cymru.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol newydd Canolbarth Cymru.

Yn bwysig, bydd hon yn agenda sgiliau a arweinir gan gyflogwyr, felly bydd ein cyflogwyr yn rhan o'r gwaith o'i llunio a'i darparu. Byddwn hefyd yn gweithio gydag unigolion a all helpu i fentora, ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi ein pobl mewn ffyrdd eraill i wireddu eu potensial yn llawn.

Byddwn hefyd yn gweithio gydag unigolion a all helpu i fentora, ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi ein pobl mewn ffyrdd eraill i wireddu eu potensial yn llawn.

Astudiaeth Achos: Osian a Catrin, Caffi a Becws CRWST, Aberteifi

Roedd gan Osian a Catrin freuddwyd o fod yn berchen ar gaffi a becws. Fe wnaethant symud yn ôl i'r gorllewin a chael eu hysbrydoli i bobi bara a chacennau crefftus i'w gwerthu yn y farchnad leol wythnosol yn Aberteifiynghyd â chyflenwi chwe siop leol. Yn 2018 agorodd CRWST yn Aberteifi ei ddrysau, gan weini brunch, bara, danteithion pob a choffi.

Yn fuan, yn sgil llwyddiant eu cynhyrchion aethant ati i sefydlu lleoliad ar wahân ar gyfer y becws. Fodd bynnag, nid yw bod yn entrepreneur byth yn hawdd! Daeth Covid-19 â'i heriau ei hun gydag Osian a Catrin yn gorfod addasu eu model busnes - symud ar-lein, dosbarthu o ddrws i ddrws a chreu citiau pobi gartref.

“Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi cymryd y cyfle hwn a dilyn ein breuddwydion. Yr allwedd i lwyddiant ein busnes yw ein brwdfrydedd dros gynhyrchu'r bwyd gorau, i barhau i fod yn arloesol wrth ddatblygu ein busnes a'r gefnogaeth barhaus gan bobl leol a thwristiaid.”