Yr hanes hyd yma... 3 Sut yr ydym ni'n gwneud? 3 Beth yw'r problemau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw? 4 Ein gwæledigaeth a'n gwerthoedd? 4 Cyd-destun a chwmpas strategol 5 Egwyddorion ac ysgogwyr allweddol 6 Yr hyn a ddywedasach chi wrthym... 7 Cefnogi ein sectorau allweddol 8 Blaenoriaeth 1: Pobl 9-11 Blaenoriaeth 2: Lle 12-16 Blaenoriaeth 3: Menter 17-20 Blaenoriaeth 4: Cysylltedd 21-26 Sut y byddwn ni'n darparu ac yn cyfrann adnoddau at strategaeth economaiidd Ceredigion? 27 Mesur cynnydd 27 Dogfennau ategol 28
Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn cydweithio tuag at sicrhau twf economaidd cryf, cynaliadwy a mwy gwydn i Geredigion, wedi ei greu a'i rannu gan bawb.
Mae ein Cynllun Corfforaethol wedi nodi rhoi hwb i'r economi fel y brif flaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion, gan ein bod yn sylwedoli'r angen i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd gennym i roi'r cyfleoedd i'n pobl a'n mentrau dyfu a ffynnu yma yng Ngheredigion.
Mae gennym ni sylfeini cadarn i adeiladu arnynt, a chyfleoedd gwych i fanteisio i'r eithaf arnynt. Er y bydd Covid-19, a heriau Brexit, yn anodd eu goresgyn, credwn y bydd y sylfeini hyn yn ein helpu i adeiladu ein dyfodol. Y strategaeth hon yw ein fframwaith ar gyfer gweithredu, gan amlinellu ein huchelgais ar gyfer y 15 mlynedd nesaf, a nodi'r camau y byddwn yn eu cymrydi wireddu'r uchelgais hwnnw.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Strategaeth hon yn ystod y cyfnod drafftio a'r cam ymgynghori. Byddwn yn parhau i gydweithio ag eraill wrth i ni ychwanegu manylion at y fframwaith a byddwn yn mynd at i roi cynlluniau ar waith i sicrhau twf cynaliadwy yn y dyfodol. Wrth wneud hynny, byddwn yn canolbwyntio ar bobl, busnesau ac amgylchedd Ceredigion. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu ar gryfderau unigryw Ceredigion a helpu ein pobl, ein mentrau, ein diwylliant a'n hiaith i ddatblygu a ffynnu.
Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i adeiladu ar grydderau unigryw Ceredigion a helpu ein pobl, ein mentrau, ein diwylliant a'n hiaith iddatblygu a ffynnu.
Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion Mae'r strategaeth hon yn nodi pedwar maes blaenoriaeth lle bydd ein camau'n cael eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth –
Mae'r strategaeth hon yn nodi pedwar maes blaenoriaeth lle bydd ein camau'n cael eu targedu er mwyn gwneud gwahaniaeth –
Mae'r rhain yn cefnogi'r Nodau Liesiant cenedlaethol o fod yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, yn fwy cyfartal, gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ac sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Mae gan Swallow Yachts yn Aberteifi enw rhagorol am grefftwaith o ansawdd da ac maent wedi gwerthu eu cychod i bedwar ban byd