Blaenoriaeth 1: Pobl Byw, gweithio a thyfu yng Ngheredigion
Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol
Ble ydym ni nawr?
Mae Ceredigion yn lle i fyw lle gellir cael bodhdad mewn bywyd, a lle gellir gwireddu uchelgeisiau proffesiynol gan fwynhau profiadau bywyd o ansawdd gwirioneddol.
Ceir tybiaeth ymhlith rhai mai prin yw'r cyfleoedd proffesiynol i bobl ifanc ddilyn gyrfa llawn boddhad yng Ngheredigion, ac mai'r unig ddewis yw symud o'r ardal i astudio, byw a gweithio. Er y bydd rhai yn symud i wireddu eu dyheadau astudio a gyrfaol i ffwrdd o'r fan yma, ceir cyfleoedd gwirioneddol i'r rhai sy'n dymuno aros.
Ein huchelgais yw gweld pobl ifanc sy'n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion yn cael gwireddu'r cyfleoedd i wneud hynny.
Ystyrir Ceredigion gan lawer hefyd fel lle gwych i gychwyn busnes, gan fwynhau hefyd y manteision niferus a geir o fyw yng Ngheredigion.
Gall Ceredigion dddod yn gyrchfan fwy deniadol fyth i ymwelwyr â'r ardal, ac i bobl sy'n dymuno symud yma i astudio, i fyw ac i weithio. Rydym hefyd eisiau manteisio ar sgiliau ac uchelgeisiau pawb sy'n byw yng Ngheredigion ac sy'n symud yma i astudio a gweithio. Yn syml, rydym yn dymuno i Geredigion fod yn lle ar gyfer twf cynhwysol.
I gyflawni ein huchegleisiau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod mwy o bobl o bob oed yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwirioneddol i ddatblygu yma. Hefyd, bydd angen i nisicrhau y gallwn ddarparu hyfforddiant i bobl o bob oed fel y gall cyflogwyr ysgogi twf economaidd Ceredigion drwy eu gweithwyr.
“Ein huchelgais yw gweld pobl ifanc sy'n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion yn cael gwireddu'r cyfleoedd i wneud hynny”
I Geredigion, mae hyn yn golygu gwireddu'r potensial i bawb sy'n byw ac yn gwethio yng Ngheredigion ac yn ymweld. Wrth i ni dyfu, dylai'r holl bobl yng Ceredigion gael y cyfle i rannu'r manteision.
Mae Ceredigion yn cynnwys ansawdd bywyd uchel i drugolion ac ymwelwyr
Mae cyflogwyr yng Ngheredigion angen pobl sydd â'r sgiliau priodol i lenwi swyddi gwag sy'n cynnig cyfleoedd gyrfaol hirdymor.
Hoffem i'r Sir fanteisio ar brofiad, sgiliau a gwybodaeth pobl sydd wedi gadael Ceredigion a bellach eisiau dychwelyd i fyw, creu busnes newydd a / neu weithio yma. Yn yr un modd, rydym am ddefnyddio'r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth sydd gan bobl dros 65 oed fel modd o sbarduno twf economaidd.
Ein huchelgais yw gwrthdroi'r gostyngiad i'r boblogaeth ifanc ac o oedran gweithio, ac rydym eisiau gweld pobl Ceredigion yn gallu mynegi eu hunigrywedd yn hyderus mewn cymunedau cryf o ran hunaniaethau, diwylliant ac iaith.
Beth yw twf cynhwysol?
Mae angen i ni sicrhau bod angen pobl am dai, cysylltedd a chyfleoedd cymdeithasol yn cael ei ddiwallu.
Gyda’n gilydd, gallwn fod yn ffyddiog y gall Ceredigion ysbrydoli pobl ac y gallwn fod yn uchelgeisiol.
A wyddech chi?
Mae gan bobłogaeth Ceredigion lefelau sgiliau llawer uwch na'r cyfartaleddd – mae gan dros 78% gymwysterau NVQ Lefel 2, sy'n uwch na'r cyfartaleddd cenedlaethol o 74%.