Cefnogi ein Sectorau Allweddol
Mae Ceredigion wedi bod yn economi a seiliwyd ar swyddi sector cyhoeddus yn draddodiadol. Mae sefydliadau Addysg Uwch allweddol yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn gyflogwyr pwysig ac yn ysgogwyr yr economi yn ogystal â sefydliadau allweddol eraill fel y Llyfrgell Genedlaethol a'r Awdurdod Lleol.
O ran swyddi sector preifat, amaethyddiaeth fu asgwrn cefn yr economi wledig a chymunedau Ceredigion. Mae'n parhau i fod yn sector pwysig a byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant amaethyddol ochr yn ochr â sefydliadau cymorth eraill, i chwarae ein rhan wrth helpu'r diwydiant i ddatblygu ac addasui newid. Rydym yn berchen ar nifer o ddaliadau amaethyddol, ac rydym am weld y rhwydwaith hwnnw o ddaliadau yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth addasu i gyfleoedd a heriau newydd, ochr yn ochr â'n gallu ymchwil ac arloesi rhagorol yn y sector amaeth-dechnoleg. Mae gennym hefyd sector ffyniannus o ran yr economi ymwelwyr, sydd bellach yn cyflogi dros 7,000 o bobl yn y sir, o gynnwys y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau twristiaeth, llety a gwasanaethau bwyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector yn eu hydrechion i arloesi, gwella ansawdd a chynyddu gwerth trwy fanteisio ar ein cryfderau craidd yn y sector hwn.
Mae'r 4,000 o bobl sy'n gweithio ym maes masnach cyfanwerthu a manwerthu yn cyfrannu at y cyfanswm o 74% o'r bobłogaeth weithio a gyflogir yn y sectorau gwasanaethu. Bydd rhai meysydd cyflogaeth yn y sector hwn (gan gynwys manwerthu) yn parhau i wynebu heriau, tra bod erail yn cynnig cyfleoedd cynddol. Yn nodedig, cyflogir 1,600 o bobl mewn gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, gan fanteisio ar wybodaeth, sgiliau a chryfderau newydd yn ogystal â rhai traddodiadol. Mae sectorau allweddol sydd wedi dod i'r amlwg ac sy'n cynyddu o ran pwysigrwydd yn cynnwys gwyddorau Amgylcheddol a Phlanhigion, Awyrofod, gwyddor Biofeddygol ac Amaeth-dechnoleg. Mae lleoliadau allweddol yn cynnwys Aberystwyth ac Aberporth.
yn cynnwys Aberystwyth ac Aberporth.
Er bod gan Geredigion sector gweithgynhyrchu bach, mae ganddi bresenoldeb sylweddol o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd mewn safleoedd strategol yn Aberystwyth a Dyffryn Aeron, tra bod nifer gynyddol o fusnesau gweithgynhyrchu bwyd bach ac arloesol hefyd yn bodoli.
Mae'r Economi Sylfaenol, gan gynnwys y sectorau manwerthu, amaethyddiaeth, gwasanaethau bwyd, adeiladu a gofal hefyd yn ysgogwyr allweddol yr economi, yn ogystal â thrydydd sector sy'n ffynnu.
Mae Ceredigion yn gartref i economi celfyddy dau a diwylliant fywiog, sy'n cyflogi dros 400 o bobl. Yn ogystal â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddy dau yn Aberystwyth, ceir canolfannau allweddol yn ardal y canolbarth a'r de, a chynlluniau ar gyfer tyfu'r sector yn y dyfodol gyda chynlluniau fel yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar fin gwneud cyfraniad gwirioneddol at dyfu'r sector.
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid allweddol i helpu gynyddu cyfleoedd gwaith yng Ngheredigion.
Bydd hyn yn cael ei wneud yn bennaf trwy dyfu nifer y busnesau yng Ngheredigion, a hefyd tyfu nifer y bobl a gyflogir gan ein busnesau. Efallai y byddwn hefyd yn gweld rhywfaint o dwf o ganlyniad i fentrau'r sector cyhoeddus – yn enwedig cyflwyno'r buddsoddiadau mewn cyfleusterau Ymchwil a Datblygu mewn sectorau allweddol, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgynhyrchu uwch a chyfleoedd erail sy'n seilieidig ar ymchwil a datblygu.
Bydd twristiaeth yn parhau i chwarae rhan allweddol o rantytu ein heconomi. Bydd buddsoddiadau mewn cyfleusterau allweddol, gan gynnwys yr harbyrau a chyfleusterau eraill o ansawdd uchel, digwyddiadau a sefydliadau twristiaeth bwyd yn cynyddu gwariant ymwelwyr ac yn mynd i'r afael â'r natur dymhorol.
Bydd yr economi sylfaenol fel bwyd-amaeth, adeiladu a manwerthu yn parhau i fod yn bwysig, a byddwn yn ceisio ehangu a chryfiau'r rhan honno o'n heconomi trwy dodd o hyd i ffyrdd newydd o annog gweithgarwich newydd ac arloesol yn barhaus, a fydd yn helpu ein pobl, ein busnesau a'n lleoedd i ddatblygu a ffynnu.
Bydd yr economi sylfaenol fel bwyd-amaeth, adeiladu a manwerthu yn parhau i fod yn bwysig, a byddwn yn ceisio ehangu a chryfiau'r rhan honno o'n heconomi trwy ddo d o hyd i ffyrdd newydd o annog gweithgarwch newydd ac arloesol yn barhaus, a fydd yn helpu ein pobl, ein busnesau a'n lleoedd i ddatblygu a ffynnu.
Rydym yn rhagweld y bydd y trydydd sector (mentrau cymunedol a chydweithredol) hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn twf yn y dyfodol trwy sicrhau bod gan y twf sail eang a'i fod yn gynhwysol.
Bydd Ceredigion yn manteisio ar gryfderau ei sectorau craidd yn yr economi sylfaenol a'r diwydiannau ymchwil uwch / seilledig ar wyddoniaeth, i greu cyfleoedd gwerth uchel wedi'u harwain gan gyflogwyr i'w gweithlu cynyddol fedrus. Bydd Ceredigion yn parhau i fod yn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef, gyda mannau diddorol lle mae diwylliant a'r Gymraeg yn ffynnu, a fydd yn cadw ei unigrywedd a'i apêl fel lle gwych i fod ynddo. Bydd datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein ffordd o weithio a byddwn yn canolbwyntio ar amddiffyn ein hecoleg a'n bioamrywiaeth gan gyflawni ein huchelgeisiau o ran twfeconomaiidd, a manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu ein hasedau gwyrdd a chynyddu cyfleoedd pobli w defnyddio a'u mwynhau.