Cyfle – ysgogir y strategaeth gan y cyfleoedd sy'n bodoli i dyfu'r economi. Trwy weithio mewn partneriaeth, gallwn greu gyda'n gilydd yr amodau ar gyfer twf cynaliadwy. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd sydd gennym i dyfu'r economi, ond rydym hefyd yn cydnabod y ffactorau bywyd yng Ngheredigion sy'n ei gwneud yn ardal lle mae pobl yn hoffi byw – ardal werdd a glân sydd eisoes yn cyfrannu at leiihau effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Mae diogelu a gwella ein tirwedd a'n bioamrywiaeth a lleihau achosion niweidiol y newid yn yr hinsawdd ymhellach yn egwyddor craidd. Yn gysylltiedig â hyn, mae gennym ymrwymiad ac angen i ddatgarboneiddio ein heconomi. Bydd hon yn egwyddor sylfaenol arall i'r strategaeth. Byddwn yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu ffyrdd i dyfu mewn ffordd sydd hefyd yn tynnu carbon allan o'r atmosffer. Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle sydd gennym i helpu mentrau yng Ngheredigion i ddatgarboneiddio.
Byddn yn ceisio gweithredu'r egwyddor o gael ein harwain gan gyflogwyr er mwyn ysgogi arloesedd a'r agenda sgiliau, i greu'r amodau i greu swyddi o werth uwch yn yr economi. Bydd hyn yn cael ei gyflawni mewn nifer o ffyrdd, ac nid yw wedi'i gyfyngu i sectorau neu fathau o swyddi penodol. Mae'n golygu creu rhai cyfleoedd cyflogaeth mewn busnesau sydd mewn sectorau gwerth uwch yn gysylltiedig â'r sectorau economi ymchwil a gwybodaeth y mae gennym fantais gystadleuol ynddynt, er enghraifft amaeth-dechnoleg, biowyddoniaeth, technoleg sbectrwm ac awyrofod. Mae hefyd yn golygu y bydd mentrau yn yr economi sylfaenol yn dod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol, ac yn tyfu i alluogi datblygiad llwybrau gyrfaol sy'n arwain at gyfleoedd gwaith â chyflogau uwch.
Diben y strategaeth yw cynyddu ffyniant yng Ngheredigion. Byddwn yn ystyriol o'r angen i sicrhau en bod yn mynd at i hybu ffyniant cyffredin. Mae hyn yn golygu sicrhau twf sy'n cyfrannu at gynyddu ffyniant mewn cymunedau ar draws tri rhanbarth Ceredigion. Mae hefyd yn golygu cyflawni uchelgais o gau'r bwlch ffyniant ariannol â chyfartaleddau Cymru a'r DU.
Diben y strategaeth yw cynyddu ffyniant yng Ngheredigion. Byddwn yn ystyriol o'r angen i sicrhau en bod yn mynd at i hybu ffyniant cyffredin. Mae hyn yn golygu sicrhau twf sy'n cyfrannu at gynyddu ffyniant mewn cymunedau ar draws tri rhanbarth Ceredigion. Mae hefyd yn golygu cyflawni uchelgais o gau'r bwlch ffyniant ariannol â chyfartaleddau Cymru a'r DU.
Egwyddor sylfaenol bwysig arall yw'r angen i ddiogelu a gwella ein hunigrywedd a'n hunaniaeth diwylliannol, a helpu i roi hwb i gydnerthedd a thwf y Gymraeg. Byddwn yn adeiladu ar waith a wnaed yn rhan o brosiect Arfor i nodi'n llawn y cyfleoedd i wireddu cyfleoedd i helpu'r Gymraeg i ffynnu trwy gamau datblygu economaidd cadarnhaol. Yn ei hanfod, bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy sicrhau bod gan y rhai sy'n siarad Cymrueg yr hyder, y sgiliau a'r cyfleoedd i ddatblygu busnesau, i weithio mewn swyddi o werth uwch, ac i weld Ceredigion fel lle ffniannus ac egniol i fyw a gweithio ynddo.
Mae'r egwyddorion hyn yn parhau i fod yn berthnasol nawr wrth i'r economi addasu i heriau Covid a Brexit.
Fframwaith ar gyfer gweithredu yw'r strategaeth hon. Mae'r data, y syniadau a'r wybodaeth a gafwyd drwy'r camau cynllunio, ymgysylltu ac ymgynghori wedi ein cynorthwyo ni i lunio'r camau gweithredu sydd i'w gweld yn ddiweddarach yn y ddogfen. Byddwn yn parhau i gydweithio â'n rhanddeiliaid wrth i ni ddatblygu a gwireddu'r camau gweithredu manwl hyn i helpu â'r gwaith o gyflawni'r uchelgeisiau a nodir. Byddwn yn hyblyg yn y ffordd y byddwn yn ymateb i gyfleoedd a syniadau newydd a ddaw yn sgil ymgsylltu parhaus â'r bobl sydd wedi gweithio gyda ni ar y broses o ddatblygu'r strategaeth hon, ynghyd â phobl erail y byddwn yn cwrdd â nhw sydd â rhan yn nyfodol Ceredigion.
Mae tua 285 o fusnesau yn y sector Gweithgareddau
Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol yng
Ngheredigion, sy'n cynnwys ymchwil a datblygu
gwyddonol. Mae'r sector hwn yn tyfu ac wedi'i gyfuno
â'n heconomi wybodaeth gref, mae'n creu'r amodau
ar gyfer swyddi â chyflog uwch a thwf economaidd.