Cyd-destun a Chwmpas Strategol
Polisiau a Strategaethau Cenedlaethol. Nod y strategaeth hon yw cyd-fynd yn Ilwyr â'r cyd-destun polisi cenedlaethol trwy hybu twf cynhwysol cynaliadwy sy'n flaenoriaethau i Lywodraethau Cymru a'r DU. Mae'n cyd-fynd yn agos â'r polisi cenedlaethol a amlinellir yn 'Ffyniant i Bawb' a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o ran ein dyheadau carbon isel a'n cynllun gweithredu economaidd.
Rhaglenni Rhanbarthol. Mae'r strategaeth hon yn cyd-
fyd yn agos â'r blaenoriaethau newydd sy'n deillio o'n
partneriaeth gyda Chyngor Powys a phartneriaid
ehangach yn rhan o Tyfu Canolbarth Cymru – a bydd yn
helpu i hysbysu'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol
newydd i gefnogi ei ddarpariaeth yn lleol.
Cynllun Corfforaethol. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi nodi'n flaenorol yr heriau sy'n wynebu economi Ceredigion a'r cyfleoedd lawer sydd ganddo i ddarparu sail ar gyfer twf cydnerth yn y dyfodol. Dyna pam mae wedi nodi Rhoi Hwb i'r Economi fel ei flaenoriaeth gyntaf yn y Cynllun Corfforaethol cyfredol.
Bydd y strategaeth hon yn dylanwadu ar lawer o strategaethau a chynlluniau eraill sy'n cael eu llunio a'u darparu gan Gyngor Sir Ceredigion. Bydd darpariaeth y strategaeth hon hefyd yn cael ei dylanwadu gan strategaethau sy'n cael eu datblgu a'u rheoli gan Gyngor Sir Ceredigion a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Addysg / Sgiliau. Bydd ein gallu i gynhyrchu twfeconomaiidd yng Ngheredigion yn dibynnu ar fod âgweithlu brwdfrydig ac amryddawn i weithio yn y mentraua a fydd yn ysgogi'r twf hwnnw. Bydd strategaethau a chynlluniau gwasanaeth addysg Cyngor Sir Ceredigion, a rhai sefydliadau addysg Bellach ac Uwch sy'n gweithredu yng Ngheredigion yn ddylanwadol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau erail sy'n darparu hyfforddiant, sgiliau a mynediad at brentisiaid, i sicrhau bod anghenion cyflogwyr yng Ngheredigion yn cael eu deall a'u diwallu.
Seilwaith. Bydd ein gallu i dyfu'r economi yng Ngheredigion yn cael ei gyfyngu heb ddatblygu seilwaith sylfaenol ffyrdd, cysylltedd digidol ac ynni. Mae gan sefydliadau allweddol eraill dan sylw, yn enwedig Llywodraeth Cymru a darparwyr rhwydweithiau yn achos darparwyr ynni a chysylltedd digidol, strategaethau a chynlluniau gweithredu ar waith i ddiwallu'r anghenion seilwaith hyn. Bydd ein strategaeth economaidd yn hysbysu'r strategaethau ategol hynny.
Tai. Mae 'Tai i Bawb' – Strategaeth Dai Leol Ceredigion yn nodi sut y bydd anghenion tai holl drigolion Ceredigion yn cael eu diwallu. Ategir y strategaeth gan gynlluniau gweithredu a fydd yn rhoi sylw i ddynameg ac anghenion newidiol y boblogaeth. Bydd ysgogwyr economaidd newidiol yn hysbysu'r cynlluniau gweithredu hyn.
Strategaethau sectorol a phwnc. Bydd strategaethau lleol a chenedlaethol eraill sy'n rhoi sylw i feysydd buddiant a chyfle periodol yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein llwyddiant o ran tyfu'r economi yma. Mae enghreifftiau'n cynnwys strategaethau ar gyfer y sectorau Bwyd a Ffermio, strategaethau a chynlluniau adfywio canol trefi e.e. Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, strategaethau ymchwil a datblygu ac arloesi. Byddwn yn nodi ac yn manteisio ar yr holl gyfleoedd i gyfateb ein hanghenion a'n strategaethau â'r rhai ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol.
O'r 30,900 o bobl sydd mewn gwaith yng Ngheredigion, cyflogir 74% yn y sectorau gwasanaethu, 12.9% yn y diwydiant twristiaeth, a 9.7% yn y diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu.
Cynllunio. Gellir sicrhau twf economaidd dim ond pan fydd y seilwaith ategol ar gyfer y twf hwnnw wedi'i sefydlu. Mae hynny'n golygu'r angen i ddarparu safleoedd ac eiddo cyflogaeth strategol, tai ac i ystyried sut y datblygir ein trefi. Bydd darpariaeth y strategaeth hon yn cael ei dylanwadu gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLI). Bydd y CDLI a'i weithrediad hefyd yn cael ei ddylanwadu gan anghenion newidiol y strategaeth economaidd, yn ogystal â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.
Cynllunio. Gellir sicrhau twf economaidd dim ond pan fydd y seilwaith ategol ar gyfer y twf hwnnw wedi'i sefydlu. Mae hynny'n golygu'r angen i ddarparu safleoedd ac eiddo cyflogaeth strategol, tai ac i ystyried sut y datblygir ein trefi. Bydd darpariaeth y strategaeth hon yn cael ei dylanwadu gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLI). Bydd y CDLI a'i weithrediad hefyd yn cael ei ddylanwadu gan anghenion newidiol y strategaeth economaidd, yn ogystal â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd.