Mae Ceredigion yn sir hyderus a deniadol lle mael lawer o'n pobl yn ffynnu ac yn datblygu, lle mael lawer wedi sefydlu busnesau llwyddiannus sy'n fynnu, a lle mael lawer o bobl yn hoffi ymweld. Mae gennym aer glân, lefelau gwych o fioamrywiaeth a thirwedd naturiol i genfigennu wrthi.
Mae'r potensial gennym i dyfu ymhellach, ac mae angen ini fynd i'r afael â nifer o heriau sylfaenol allweddol os ydym yn mynd i wireddu ein potensial llawn.
Ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, mae poblogaeth Ceredigion wedi lleihau'n sylwedol, yn enwedig yn y proffil oedran 16-64. Yn gryno, mae pobl ifanc wedi allfudo o Geredigion, yn rhannol o ganlyniad i ostyngiad i nifer y swyddi sector cyhoeddus, sydd wedi bod yn rhan bwysig o economi Ceredigion erioed.
Oherwydd hyn, her arall yw tyfu maint, amrywiaeth a chydnerthedd y sector preifat yng Ngheredigion. Mae angen i ni weld mwy o fusnesau yn cychwyn, a mwy o'n micro-fusnesau a busnesau bach yn tyfu.
Hefyd, bydd angen i economi Ceredigion addasu newidiadau a heriau allweddol yn sgil penderfyniad y DU ymadael â'r UE.
I gefnogi poblogaeth a fydd yn tyfu yn y dyfodol, mae angen i ni allu parhau i fuddsoddi yn ein lleoedd, gan eu gwneud yn ddeniadaol ac yn fforddiadwy i'n pobl fyw a gweithio ynddynt, ochr yn ochr â thyfu'r economi ymwelwyr yn gynaliadwy.
Gan adeiladu ar ein cryfderoedd, byddwn yn gweithio ar y cyd i roi mesurau ar waith i wrthdroi tueddiadau diweddar yn ein heconomi, gan fynd i’r afael â’n heriau allweddol i wireddu gweledigaeth o economi sy’n darparu dyfodol cynaliadwy i bawb sy’n dewis byw a gweithio yma.
Wrth baratoi'r fframwaith strategol hwn, rydym wedi siarad â llawer o bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredion ac sy'n rhedeg busnesau a sefydliadau yma. Yn gyfunol, rydym yn rhannu gweledigaeth debyg ac mae gennym lawer o werthoedd yn gyffredin. Bydd y gwerthoedd hyn yn ysgogi ein dull o ddatblygu a thyfu ein heconomi yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Mae pobl a busnesau Ceredigion yn rhai Cydnerth, a bydd angen iddyn nhw barhau i fod felly i ymateb i'r heriausy'n ein hwynegu yn ein heconomi, ein hinsawdd a'n cymunedau. Mae angen i ni sicrhau cydnerthedd ar draws ein holl sectorau i dyfu'n llwyddiannus ac yn gynaliadwy.
Rydym yn Anelu'n uchel. Mae gennym sylfeini cadarn – yn ein heconomi, ein haddysg, ein hamgylchedd, ein traddodiadau a'n diwylliant, a gallwn weld cyfleoedd i adeiladu ar y rhain mewn ffordd sy'n cynnwys rhagolygon arloesol, realistig a chyffrous ar gyfer y dyfodol i'r rhai sydd eiisiau bod yn rhan ohono.
Mae Ceredigion yn sir sy'n Rhwydweithio a bydd yn parhau felly – bydd yn tyfu'r economi trwy wrando ar anghenion ei phobl a deall yr anghenion hyn, gan hefyd ofalu am ei hamgylchedd a'i chymunedau.
Mae gan Geredigion lawyer o nodweddion Unigryw ac mae'n bwysig ein bod yn clodfori'r rhain ac yn eu defnyddio i greu cyfleoedd newydd.
Mae'r 4 o werthoedd hyn, a grynhoir yn y geiriau allweddol - Cydnerthedd, Anelu'n uchel, Rhwydweithio ac Unigryw, yn sillafu CARU. Mae Caru Ceredigion yn rhan o hunaniaeth brand yr ydym yn gobeithio y bydd pawb sy'n adnabod Ceredigion yn gallu teimlo cysylltiad â hi.
Bydd Ceredigion yn magu hyder wrth iddi ddefnyddio ei hasedau – naturiol, ffeisegol a phobl – yn gynyddol i ddatblygu a thyfu'r economi.
Bydd mwy o gyfleoedd yn cael eu creu gan fusnesau presennol a newydd i bobl o bob oed.
Bydd mwy o fusnesau'n cael eu sefydlu a bydd busnesau'n tyfu, gan fwynhau'r amgylchedd cadarnhaol ar gyfer twf yma yng Ngheredigion.
Bydd twf economaidd yn cael ei sicrhau'n gynaliadwy – gan hefyd barhau i chwarae ein rhan mewn ymdrin ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a helpu ein cymunedau i ffynnu ar draws Ceredigion gyfan.
Bydd arloesedd wedi'i arwain gan fenter yn arwain at gyfleoedd gwaith newydd i bobl ifanc medrus sy'n cael eu haddysgu a'u hyfforddi yn ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion.
Bydd pobl ifanc sy'n dymuno aros yng Ngheredigion, yn ogystal â'r rhai a allai fod eisiau dychwelyd i fyw a gweithio yma neu symud yma am y tro cyntaf, yn gweld Ceredigion fel lle llawn cyfleoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein cymunedau yn dal i fod yn lleoedd bywiog lle gall ein diwylliant a'n hiaith Gymraeg ffynnu.