Blaenoriaeth 4: Cysylltedd
Cysylltedig - Cysylltu Ceredigion
Cysylttedd digidol – Yn syml, ein huchelgais yw sicrhau nad yw trigolion a busnesau Ceredigion o dan anfantais oherwydd diffyg cysylttedd digidol. Cydnabyddir yn eang bod cysylttedd digidol yn cael ei ystyried erbyn hyn yn rhan hanfodol o fywyd cartref a busnes, ac mai dyma'r pedwerydd cyfleustod. Nid yw'n ymwneud â dal i fyny felly – ond sicrhau bod gennym yr un mynediad a chyfle â threfi a chymunedau ledled y DU. Mae hynny'n golygu uchelgais i ddarparu gwasanaethau sy'n cyfateb i gyfwerth â ffibr llawn i lefelau ymhell uwchlaw'r cyrhaeddiad presennol o 80%.
Hoffem i fusnesau fanteisio'n llawn ar dechnoleg i gynorthwyo eu twf, gan ddatblygu dulliau newydd gyda chysylltedd trwy dechnoleg newydd, fel 'Y Rhyngrwyd Pethau', i sicrau bod busnesau yng Ngheredigion ar flaen y gad o ran datblygiadau ac yn ysgogi twf economaidd gwledig, yn hytrach na disgwyl i ddal i fyny. Byddwn yn gweithio gyda rhaglenni cenedlaethol ac yn datblygu ein datrysiadau ein hunain i helpu busnesau i wneud y defnydd gorau o gysylltedd / technolegau newydd.
Cysylltedd trafnidiaeth – I ysgogi twf economaidd a denu busnes newydd, mae angen i ni wella cysylltedd i Geredigion ac oddi mewn iddi. Byddwn yn adeiladu ar ein cysylltiadau presennol i ddarparu'r rhwydwaith trafnidiaeth sydd ei angen i helpu i dyfu'r economi a chynyddu cynhyrchiant.
Mae rhwydweithiau trafnidiaeth dibynadwy, cydnerth, cynaliadwy a chysylltiedig yn hanfodol bwysig i dwf economaidd a chymunedau yng Ngheredigion. Bydd gwell cysylltedd trafnidiaeth yn chwarae rhan hollbwysig i gynorthwyo llifoedd economaidd, i wella hygyrchedd, i ddenu buddsoddiad ac i alluogi datblygiad.
Cysylltedd Ynni – Mae cysylltedd fforddiadwy i rwydwaith ynni wedi'i ddatgarboneiddio yn rhan hanfodol o'n twf economaidd yn y dyfodol. Ynni yw popeth, hebddo ni allwn wresogi ein cartrefi, symud o gwmpas, na gweithio. Mae agenda ddatgarboneiddio'r DU yn golygu bod yn rhaid i ynni dddod o ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol. Mae'r sir a'r rhanbarth mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddiwallu'r angen hwn, ond mae seilwaith grid gwael ar hyn o bryd yn atal hyn.
Cysylltedd Ynni – Mae cysylltedd fforddiadwy i rwydwaith ynni wedi'i ddatgarboneiddio yn rhan hanfodol o'n twfeconomaidd yn y dyfodol. Ynni yw popeth, hebddo ni allwn wresogi ein cartrefi, symud o gwmpas, na gweithio. Mae agenda ddatgarboneiddio'r DU yn golygu bod yn rhaid i ynni dddod o ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol. Mae'r sir a'r rhanbarth mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddiwallu'r angen hwn, ond mae seilwaith grid gwael ar hyn o bryd yn atal hyn.
Mae cysylltedd trafnidiaeth, digidol ac ynni yn dair her allweddol.
Mae cysylltedd digidol gwael o ran band eang gwael a signal symudol anghyson ac annibynadwy yn parhau i ymyleiddio cymunedau gwledig, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd; gan achosi rhwystredigaeth; rhwystro busnesau gwledig ac atal pobl rhag ymgysylltu â gwasanaethau ar-lein. Mae'n rhaid i nigydnabod bod angen gwell cysylltedd arnom er mwyn denu busnesau newydd neu arafu lleihad ein poblogaeth.
Mae maint a natur anghysbell a gwasgaredig aneddiadau yng Ngheredigion yn achosi heriau o ran cludo nwyddau a phobl. Mae'r rhwydwaith o Gefnffyrdd a ffyrdd Sirol a'r coridorau rheilffordd yn y rhanbarth yn cwmpasu ardal eang wedi eu cyfyngu gan ddaearyddiaeth y sir. Mae'r ffyrdd yn rhai unffrwd gan achosi dibynadwyedd amser teethiau a gwydnwch y rhwydwaith, amseroedd teethiau hira dibynadwyedd gwael.
Er bod Ceredigion yn allforiwr trydan net ar hyn o bryd, mae seilwaith grid gwael yn gwneud cysylltiadau ynni sylweddol newydd yn afresymol o ddrud, sy'n gyfyngiad posibl.
Mae'r angen am gysylltedd digidol da wedi bod yn hanfodol yn ystod pandemig Covid. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod cysylltedd gwael yn achosi problemau sylweddol i'r rheini yng Ngheredigion a fu'n ymateb i'r achos ac yn gweithio o adref. O ganlyniad, sefydlwyd peilot yn archwilio'r defnydd o dechnoleg amgen i wella cyflymderau band eang drwy geblau sefydlog.
Treialwyd llwybryddion 4G mewn lleoliadau o amgylch Ceredigion. Mewn ardaloedd lle gellid derbyn signal 4G, roedd yn caniatáu i bobl barhau â'u dyletswyddau a chynnal cysylltiad â chwsmeriaid, cyflenwyr ac aelodau o'r gymuned.
"Rwyf wedi gweld gwelliant enfawr. Gallaf nawr dderbyn tua 25mbps o'i gymharu â'r uchafswm o 3mbps cyn hynny. Mae mynediad at gyflymder band eang uwch wedi cael effaith fawr ar fy ngallu i weithio gartref. ” (Endaf Griffiths, Wavehill)
Gorsaf Bwer Rheidol yw'r prosiect ynni dwr mwyaf yng Nghymru yn cynhyrchu 85 GWh o drydan sy'n ddigon i bweru 20,000 o gartrefi