Mae'n rhaid mai'r uchelgais yw ein bod yn creu swyddi sy'n ysgogi mwy o ffyniant personol a chyfle sy'n tyfu ein heconomi yn gynaliadwy ac yn mynd i'r afael â'n her cynhyrchiant.
I wneud hynny, bydd yn rhaid i ni weithio mewn partneriaethau cydweithredol cryf i greu'r amodau iawn a chynnig y cymorth iawn i'r cyfleoedd hyn gael eu creu. Dim ond trwy ddull tìm lleol cryf ar draws sefydliadau fel Cyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru, addysg uwch a phellach, y trydydd sector – a'r nifer o ddarparwyr cymorth presennol.
Er y disgwylir i'r prif ysgogiad twf ddd o'r sector preifat, bydd cyfleoedd sylweddol yn y trydydd sector hefyd. Byddwn yn croesawu busnesau a mentrau twf newydd ar draws amrywiaeth o sectorau, gan adeiladu ar gryfderau ein diwydiant a'n hasedau presennol a defnyddio ein pobl fedrus yn effeithiol ond byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar gyfleoedd i gefnogi ein diwydiannau craidd yn yr economi sylfaen (amaethyddiaeth, bwyd, twristiaeth, adeiladu ac ati) gan ddatblygu ac arallgyfeirio. Byddwn hefyd yn ceisio manteisio ar gyfleoedd i greu mwy o swyddi yn yr economi wybodaeth, gan fanteisio ar arbenigedd ein Prifysgolion o ran Ymchwil a Datblygu ynghyd â'r rhwydwaith cyfoethog o arbenigedd proffesiynol a ddarperir gan amrywiaeth eang o sefydliadau cymorth sydd wedi'u lleoli yng Ngheredigion.
Fel Cyngor, byddwn hefyd yn ceisio defnyddio ein hasedau, ein hadnoddau a'n rhwydweithiau i gryfiau'r cynnig a'r cymorth i alluogi twf menter a sicrhau eu bod yn ffynnu yma. O ganlyniad, bydd Ceredigion yn cael ei ystyried fel lle gwych i redeg busnes ynddo.
Byddwn yn creu cyfleoedd i bawb sydd eisiau cyfrannu at dwf mentrau newydd a phresennol wneud hynny, gan fanteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sy'n bodoliyng Ngheredigion.
Byddwn yn creu cyfleoedd i bawb sydd eisiau cyfrannu at dwf mentrau newydd a phresennol wneud hynny, gan fanteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sy'n bodoliyng Ngheredigion.
Bydd angen i fusnesau newydd a phresennol fod yn ganolog i'n gwaith i gefnogi ein twf economaidd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat yng Ngheredigion i ddeall eu problemau a'u hanghenion, ac yn gweithio i fynd i'r afael â nhw pan fo'n bosibl, mewn partneriaeth â sefydliadau a sectorau allweddol eraill, gan gynnwys:
Lilywodraeth Cymru
Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru
Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch
Darparwyr sgiliau a hyfforddiant
Cyrff cynrychioli busnes
Ariannwyr preifat a chyhoeddus
Sefydliadau trydydd sector
Mae gan Geredigion un o'r poblogaethau mwyaf yng Nghymru sy'n gweithio gartref – mae tua 17.3% o boblogaeth oedran gweithio'r sir yn weithwyr cartref, sy'n cyfateb i tua 6,200 o bobl. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i fywa gweithio yn y sir.
Astudiaeth Achos: Mae Ridiculously Rich by Alana yn uno Iwyddiannau Ceredigion ac mae bellach yn enwadnabyddus yn y sector bwyd a diod yma a thu hwnt. Mae gwreiddiau'r busnes yng ngorllewin Cymru ac mae ganddyn nhw bopty pwrpasol yn Aberystwyth i greu'r cynnyrch.
Yn dilyn llwyddiant cynnar Alana yn gwerthu cynnyrch ledled y wlad ac yn ennill cyfres “The Apprentice”, mae ei phortffolio wedi ehangu’n sylweddol ac mae ei hangerdd dros y gwaith mor gryf ag erioed.
Mae gan Ridiculously Rich bellach 50 o partneriāid sy'n mynd â chacennau i ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig ac yn cyflenwi manwerthwyr annibynnol lleol. Mae wedi creu bariau 'Grab & Go' ac mae wedi gosod unedau gwerthu hunan-wasanaeth sy'n dangos brand y cwmni mewn siopau cyfleustra a gorsaoedd petrol. Mae'r busnes yn parhau i esblygu; mae ganddo bresenoldeb cryf ar-lein ac mae modd tanysgrifio'n fisol i'r cynnyrch erbyn hyn. Yn 2020 agorodd Alana ei siop gyntaf, yn Aberystwyth, sy'n edrych allan dros Fae Ceredigion.
Dymuna Alana roi'r cyfle i eraill redeg busnes drwy ddechrau eu masnachfraint Ridiculously Rich eu hunain drwy ei chynllun cacenpreneur a llysgenhadon.