Yn syml, rydym ni eisiau gweld Ceredigion fel lle gywch i gychwyn busnes ac i dyfu busnes.
Byddwn yn gweld busnesau newydd yn cychwyn ar draws amrywiaeth o sectorau, ond yn canolbwyntio'n benodol ar ein cryfderau craidd sef gweithgynhyrchu bwyd, amaethyddiaeth, amaeth-dechnoleg, twristiaeth, gwyddor amgylcheddol, awyrofod, sbectrwm a diwydiannau ymchwil a datblygu seiliedig ar wyddoniaeth eraill. Bydd yr economi sylfaenol hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn twf yng Ngheredigion, gyda chyfleoedd allweddol ym meysydd adeiladu a gofal yn arbennig.
Ein huchelgais yw gweld cynnydd hefyd i gyfran ein busnesau sydd o faint canolig (yn cyflogi dros 50 o bobl).
I gyflawni hyn, bydd angen i ni ddatblygu dull partneriaeth gwirioneddol gan gynnwys y sector cyhoeddus, busnesau, sefydliadau trydydd sector a'r byd academaidd, i sicrhau bod yr amodau ar gyfer datblygu cymuned fusnes sy'n ffynnu ar waith.
Mae Ceredigion yn gartref i sylfaen gadarn o fusnesau llwyddiannus. Mae'r mwyafrif llethol yn fusnesau bach ac yn ficro-fusnesau.
Er bod cyfraddau goroesi busnesau ymhlith yr uchaf yng Nghymru, nid yw'r gyfradd cychwyn busnesau yn ddigon uchel ar hyn o bryd i ddarparu'r peiriant ar gyfer twf sydde ei angen ar economi Ceredigion. Mae diffyg olyniaeth mewn rhai achosion yn arwain at fusnesau hyfyw sy'n ffynnu yn rhoi'r gorau i fasnachu, gan gyfrannu at gyfraddau marwolaeth busnes uwch.
Ceir arwyddion cadarnhaol – mae gennym nifer o bobl fusnes ifanc uchelgeisiol sydd wedi sefydlu busnesau newydd sy'n ffynnu yn ddiweddar, yn enwedig yn y diwydiant bwyd. Mae buddsoddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd yn dangos addewid mawr o ran gallu denu busnesau newydd yn seiliedig ar y gallu ymchwil a datblygu gwyddonol.
Mae gennym drydydd sector sy'n ffynnu hefyd gan gynnig y sylfaen i gymunedau o bobl weithredu a rhoi sylw i anghenion penodol, er enghraifft ym meysydd gofal, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth.
Mae 2,810 o fentrau wrthi'n gweithio yng Ngheredigion, gyda'r mwyafrif helaeth yn ficro-fentrau sy'n cyflogi hyd at 9 o bobl. Dim ond 0.5% sy'n faint canolig - sy'n cyflogi rhwng 50 a 249 o bobl - ond rydym am gynyddu'r nifer hwn dros y pymtheng mlynedd nesaf fel bod cyfleoedd newydd am swyddi sy'n talu cyflogau uwch.
Y sectorau cyflogaeth mwyaf yng Ngheredigion yw:
| Addysg | 13.9% |
|---|
| Gweithgareddau twristiaeth | 12.9% |
|---|
| Masnach cyfanwerthu a manwerthu | 12.9% |
|---|
| Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith | 12.3% |
|---|
| Gweithgareddau llety a gwasanaethau | 11.3% |
|---|