Bydd Ceredigion yn parhau i edrych tuag allan a cheisio tyfue ei chysylltiadau rhyngwladol trwy ymdrechion diwylliannol, academaidd a menter. Byddwn yn parhau i weithio gyda threfi allweddol ym mhab un o dri rhanbarth Ceredigion i adeiladu ar y gwaith a wneir wrth ddatblygu'r Cynlluniau Lle, fel sylfaen ar gyfer ceisio sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau adfywio allweddol.
Byddn yn adolygu, yn diweddaru neu'n datblygu cynlluniau mawr ar gyfer pob un o'n hardaloedd, gan nodi gwleidgaeth ar gyfer datblygu rhannau allweddol o'n trefi, a dangos sut y gellir datblygu cynigion o ran tai, trafnidiaeth, cyflogaeth, adloniant a manwerthu yn y dyfodol. Byddn yn gwneud hyn trwy weithio mewn partneriaeth - yn fewnol, a chyda rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol - i helpu i greu gwleidgaeth ar gyfer trefi ym mhab rhan o Geredigion, a chefnogi datblygiad prosiectau cyfalaf a refeniw i gyflawni'r cynlluniau.
Byddwn yn sicrhau bod anghenion datblygol yr economi yn cael eu hadlewyrchu yn y dadansoddiad o anghenion tai yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i fuddsoddi, mewn partneriaeth ag eraill, yn seilwaith gwyrdd y sir, gan sicrhau bod digonedd o gyfleoedd i fanteisio ar ein hamgylchedd naturiol a'i fwynhau.
Byddn yn gweithio i dmenu buddsoddiad sector preifat a sector cyhoeddus i gefnogi datblygiadau seilwaith allweddol sy'n galluogi pobl i ymweld a mwynhau'r hyn sydd gan Geredigion i'w gynig.
Cydgynhyrchwyd y cynlluniau lle gan gynnwys yn y trefi ar draws tri rhanbarth Ceredigion, gan weithio gyda chynghorau cymuned a chynghorau tref lleol a grwpiau cymunedol a busnes eraili sydd â rhan yn y rhaglenni economaidd ac adfywio ar gyfer ein trefi.
Byddn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r rhai sy'n ymwneud â datblygu'r cynlluniau lle, ac yn gweithio gyda phartneriaid darparu erail ac ariannwyr posibl (er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru) i nodi cyfleoedd i wireddu'r weledigaeth yn y cynlluniau lle, a'n huchelgeisiau eang i ddatblygu ein hasedau naturiol a ffisegol.
100 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
a'r unig
Biosffer
yng Nghymru
Ceredigion yw un o'r lleoedd mwyaf iach i fyw yng Nghymru a'r DU – mae'r disgwyliad oes o 81 oed i ddynion ac 84 oed i fenywod yn uwch na'r cyfartaledd, ac mae bodlonrwydd bywyd yn parhau i gynyddu.