Rydym yn dymuno i Geredigion barhau i fod yn fan lle maepobl eisiau byw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. Yn y dyfodol, bydd angen i ni ddeall anghenion newidiol ei thrigolion, ei gweithwyr a'i hymwelwyr yn ogystal â'r heriaua ddawe o ganlyniad i newid hinsawdd gan addasu mewnbyd sy'n newid yn sgil pandemig Covid-19 a Brexit.
Yn rhan o'n gwledigaeth, bydd gan Geredigion:
Dai sy'n diwallu anghenion ei demograffeg sy'n newid gan gynnwys atebion i alluogi pobl leol i gael mynediad at dai fforddiadwy
Safleoedd cyflogaeth strategol a mannau gwaith erail sy'n diwallu anghenion cyflogaeth yn y dyfodol
Tirwedd a mannau gwyrdd sy'n cyfrannu at lesiant pobl a'r blaned
Trefi sy'n darparu mannau byw, gweithio a chymdeithasol sy'n ffynnu
Asedau naturiol a ffisegol y gall trigolion ac ymwelwyr fanteisio arnynt a'u mwynhau.
Yn hanesyddol, mae pobl a mentrau o Geredigion wedi gadael eu hól ar lwyfan y byd yn ddiwylliannol a thrwy arbenigedd ymchwil ac allforio cynhyrchion.
Mae pobl sy'n byw yng Ngheredigion yn rhoi sgör o 7.8 allan o 10 o ran eu bodlonrwydd mewn bywyd, ac mae 85% yn fodlon neu'n fodlon iawn gyda'r amgylchedd ym aent yn byw ynddo. Mae pobl yn cydnabod eu bod yn byw mewn rhan wych o'r byd. Mae dros 2.7 miliwn y flwyddyn o ymwelwyr â Cheredigion hefyd yn dangos pa mor ddeniadol yw'r sir.
Fodd bynnag, ceir heriau, ac mae'n rhaid i ni barhau i ddatblygu ein lleoedd i ddiwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol o drugolion ac ymwelwyr. Mae ein heriau allweddol presennol yn cynnwys:
Yr angen i ddarparu tai fforddiadwy a hygyrch sy'n diwallu anghenion demograffeg a gweithlu sy'n newid.
Ailddiffinio diben ein canolfannau allweddol yng ngoleuni newidiadau i arferion manwerthu a'r effaith ddilynol ar strydoedd mawr.
Y ddarpariaeth o gyfleusterau sy'n cynnig adloniant deniadol drwy'r flwyddyn i drisolion ac ymwelwyr.
Diogelu a gwella ein hasedau naturiol gwyrdd i alluogi pobl i fanteisio arnynt a'u mwynhau, yn ogystal â chyfrannu at y frwyddar yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Mae Aberteifi dros y blynyddoedd diwethaf wedi gweld adnewyddiad yn sgil datblygu nifer o fentrau gyda'r nod o adfywio'r dref a'r ardal gyfagos. Yn arwyddocaol, mae'r rhain yn fentrau sydd wedi'u harwain gan unigolion, sefydliadau a phartneriaethau lleol.
Mae datblygiadau fel trosglwyddo asedau lleol i berchnogaeth gymunedol; mentrau newydd sydd wedi dod i'r amlwg; twf y sector menter gymdeithasol ac adfywiad adeiladau hanesyddol gan gynnwys Neuadd y Dref a Chastell Aberteifi a hynny gan ddefnyddio gwahanol ddulliau o ariannu, i gyd wedi arwain at lwyddiant lleol a mwy o fywiogrwydd yn y dref.
Aberteifi oedd y dref gyntaf yng Ngheredigion i lansio ap a chynllun Wi-Fi trefol ei hun, gan ddangos y gall busnesau lleol, drwy ddefnyddio dadansoddeg, dddod i adnabod eu cwsmeriaid ac addasu i ddiwallu eu hanghenion a'u harferion er budd yr economi leol.
Mae Aberteifi yn parhau i edrych i'r dyfodol wrth iddi geisio cwrdd â'r heriau a bachu ar y cyfleoedd hynny yn y dyfodol!